Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol o 6pm ar 7/12/17 yn effeithio ar ein gwasanaethau rhyngrwyd, gan gynnwys gwefannau ac e-bost.
Cartref Ymwelwyr Digwyddiadau StadiwmZipworld Nina Nesbitt i ymuno â Jess Glynne yn Stadiwm Zip World ym Mae Colwyn

Nina Nesbitt i ymuno â Jess Glynne yn Stadiwm Zip World ym Mae Colwyn


Summary (optional)
Mae Orchard Live wedi cyhoeddi y bydd y seren bop indi Nina Nesbitt yn westai arbennig i Jess Glynne yn Stadiwm Zip World, Bae Colwyn ddydd Sul 7 Gorffennaf 2019. Cyhoeddwyd hefyd y bydd Dusky Grey o Landudno yn eu cefnogi
start content

Llwyddodd Nina Nesbitt sydd wedi derbyn clod gan Ed Sheeran ac wedi arwyddo i Island Records, gyda’i geiriau clyfar, di flewyn ar dafod a’i cherddoriaeth pop fachog i gael albwm yn 20 uchaf y siartiau pan ddaeth i amlygrwydd y cyhoedd yn 2013 gyda Peroxide. Yna diflannodd i’r cefndir, gan ysgrifennu ar gyfer perfformwyr fel Jessie Ware, The Shires, Sigala, Jonas Blue a mwy.

Mae ailymddangosiad Nina a’i halbwm The Sun Will Come Up, Seasons Will Change wedi'i gweld yn trawsnewid yn llwyr o ran sain a delwedd; gan nodi ei bod yn artist sydd wir wedi darganfod ei hun. Dyma albwm sy’n cydblethu pop ac RnB i greu sain magnetig, sydd wedi gweld ei sengl Loyal to Me yn cael ei ffrydio dros 120miliwn o weithiau, gan ennill lle ar restrau chwarae BBC Radio 1 a 2.

Hefyd yn eu cefnogi mae Dusky Grey, deuawd pop electronig bachgen / merch o Landudno, sydd wedi cael eu ffrydio 24 miliwn o weithiau – tipyn o gamp i grŵp a ffurfiwyd mor ddiweddar â 2017. Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer sioe’r ddeuawd, sef Gethin Williams a Catty Hopkins, yn Theatr Colwyn yn 2018, ac yn ystod eu cyfnod byr gyda’i gilydd maent wedi derbyn cefnogaeth gan BBC Introducing Cymru, Glannau Mersi, Llundain a Radio 1.

Mae Jess Glynne eisoes wedi bod yn brysur ers y cyhoeddiad ym Mharc Singleton, gyda pherfformiad grymus yng Ngwobrau BRIT 2019 a ddenodd ganmoliaeth o bob cwr ac mae hi wedi ail-ryddhau Thursday gyda H.E.R

Mae albwm gyntaf Jess, I Cry When I Laugh yn un o recordiau pop mwyaf nodweddiadol ei chyfnod ac arhosodd yn y siartiau am 138 wythnos. Aeth yr albwm yn syth i rif 1 yn y siartiau, gan arwain at werthu dros 12 miliwn o senglau ledled y byd, llwyddodd i aros yn y 10 uchaf yn siartiau’r DU am 39 wythnos, mae wedi cael ei ffrydio 2.5 biliwn o weithiau ar Spotify, taith arena a werthodd allan o amgylch y DU, a chafodd ei henwebu am wobrau Brit, MTV, EMA, Ivor Novello, MOBO, Q a Glamour.

Ers hynny, mae hi wedi rhyddhau ei hail albwm stiwdio, Always In Between, a aeth yn syth i rif un ar frig y siartiau. Parhaodd ei rhediad o senglau poblogaidd gyda I'll Be There, y seithfed tro iddi hi gyrraedd brig y siartiau, gan sicrhau record i Glynne ar gyfer y nifer mwyaf o senglau i gyrraedd rhif un gan artist sengl benywaidd o Brydain, ac yna rhyddhawyd All I Am a Thursday.

Mae’r sioe yn cael ei hyrwyddo gan Orchard Live deiliaid gwobr Hyrwyddwr Rhanbarthol Cerddoriaeth Fyw'r flwyddyn yn y DU. Dywedodd Pablo Janczur, cyfarwyddwr Orchard Live:  “Mae Nina Nesbitt wedi trawsnewid ers cyhoeddi ei halbwm cyntaf 6 mlynedd yn ôl. Mae ei halbwm diweddaraf wedi bod yn cael llwyth o ganmoliaeth gan yr adolygwyr ac mae hynny’n haeddiannol. Ddylen ni ddim anghofio Dusky Grey chwaith. Maen nhw wedi bod ar ein radar ers peth amser ac rydym wedi bod yn aros am y cyfle iawn i weithio gyda nhw. Mae’r ddau yn ychwanegiadau ardderchog i’r sioe!”

Mae tocynnau ar gael drwy www.venuecymru.co.uk; drwy fynd i Venue Cymru, neu drwy ffonio Swyddfa Docynnau Venue Cymru ar 01492 872000.

 

Nina Nesbitt i ymuno â Jess Glynne yn Stadiwm Zip World ym Mae Colwyn

end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy