Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – dydd Gwener 15 Tachwedd 2019

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy gydol y dydd, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Westlife


Summary (optional)
Dydd Sul, 5 Gorffennaf 2020, Stadiwm Zip World, Bae Colwyn
start content

Westlife Press Shot 2 - Colour

WESTLIFE YN CYHOEDDI TAITH ‘STADIUMS IN THE SUMMER’ 2020

Bydd y sêr pop Gwyddelig yn cyrraedd mwy o gefnogwyr nag erioed wrth iddyn nhw ddechrau ar eu taith awyr agored fwyaf hyd yma

Bydd eu halbwm newydd, Spectrum, yn cael ei ryddhau 15 Tachwedd

Bydd Westlife – y grŵp sydd wedi gwerthu’r nifer mwyaf o albymau yn y DU – yn teithio ar hyd a lled y DU yn 2020 fel rhan o’u taith haf 15 dyddiad Stadiums in the Summer.

Bydd brenhinoedd y byd pop, sy’n dod i Stadiwm Zip World ddydd Sul 5 Gorffennaf 2020, yn canu’r holl ganeuon poblogaidd fel 'Swear It Again', ‘Flying Without Wings’ a ‘You Raise Me Up’, yn ogystal â chaneuon newydd o’u halbwm diweddaraf ‘Spectrum’ sydd â digon o fynd ynddynt.

Bydd y daith fawreddog, sy’n cynnwys rhai o’r lleoliadau awyr agored mwyaf yn y DU, yn dod i ben gyda sioe gyntaf Westlife yn Stadiwm Wembley ddydd Sadwrn 22 Awst.

Bydd y tocynnau ar werth 9am ddydd Gwener 8 Tachwedd ar www.ticketmaster.co.uk ac yn uniongyrchol yn www.venuecymru.co.uk neu drwy ffonio 01492 872000.

Bydd tocynnau ymlaen llaw ar gael o 9am ddydd Mawrth 5 Tachwedd drwy archebu Spectrum yma.


Fe ddaw’r cyhoeddiad ynghylch taith Stadiums in the Summer yn dilyn llwyddiant ysgubol dychweliad anhygoel Westlife ac wrth iddynt baratoi i ryddhau albwm newydd sbon ‘Spectrum’ ar 15 Tachwedd.

Mae’r daith i Stadiwm Zip World yn cael ei chyflwyno gan Orchard Live & LHG Events ac mae’n dilyn llwyddiant anhygoel taith ‘Twenty Tour’ yn ystod yr haf – sef taith fwyaf poblogaidd Westlife lle gwerthwyd pob tocyn ymhen dim o dro.

Meddai’r band: “The reaction to our comeback tour was beyond anything any of us ever imagined so we’re going to do it all over again but this time in some of the largest outdoor venues in the UK. The shows are going to be incredible and will include all our greatest hits. We can’t wait to perform at Stadiwm Zip World in Colwyn Bay”.

Wrth siarad am daith Stadiums in the Summer yn dod i Stadiwm Zip World, meddai Cyfarwyddwr Orchard Live, Pablo Janczur: “We’ve set a precedent for big name artists in Colwyn Bay over the years, so we’re delighted we’ve been able to attract another high calibre artist for 2020. Westlife are one of the biggest names in music and we’re looking forward to singing along to their armory of hits!”

Meddai Liz Doogan-Hobbs MBE, Prif Swyddog Gweithredol LHG Events: “We are delighted to be working with Orchard Live in bringing Westlife to Colwyn Bay. Pablo and his team have established Stadiwm Zip World as a premier concert venue in the North West, and we know fans will love this show! Come and sing your hearts out! We look forward to seeing you all there.”

Mae Westlife wedi gwerthu dros 55 miliwn o recordiau ar draws y byd a nhw ydi’r unig fand sydd wedi cyrraedd rhif 1 yn y siartiau gyda’u sengl gyntaf erioed. Nhw hefyd sydd wedi rhyddhau’r nifer mwyaf o senglau sydd wedi mynd yn syth i frig y siartiau. Dros y blynyddoedd mae’r band wedi gweld 14 o senglau yn cyrraedd rhif 1 yn y siartiau, gydag ond Elvis Presley a The Beatles wedi cael mwy. Maen nhw wedi rhyddhau 33 o albymau Rhif 1 ar draws y byd ac, fel band byw, wedi gwerthu 5 miliwn o docynnau ledled y byd.

Taith Stadiums in the Summer:

MEHEFIN 2019
  • Dydd Gwener 19 - Norwich, Carrow Road
  • Dydd Sul 21 - Peterborough, The Weston Homes Stadium
  • Dydd Gwener 26 - Caerdydd, Stadiwm Dinas Caerdydd
  • Dydd Sadwrn 27 - Falkirk, Falkirk Stadium
  • Dydd Sul 28 - Inverness, Inverness Caledonian Stadium
GORFFENNAF 2019
  • Dydd Gwener 3 - Southampton, The Ageas Bowl
  • Dydd Sadwrn 4 - Plymouth, Home Park
  • Dydd Sul 5 - Bae Colwyn, Stadiwm Zip World
  • Dydd Gwener 10 - Hull, Hull College Craven Park Stadium
  • Dydd Sadwrn 11 - Caer Colun (Colchester), Castle Park
  • Dydd Sul – Caerloyw, Kingsholm Stadium
  • Dydd Iau 16 - Caerlŷr, Fischer County Ground
  • Dydd Gwener 17 - Caint, The Spitfire Ground
  • Dydd Sadwrn 18 - Durham, Emirates Riverside
AWST 2019
  • Dydd Sadwrn 22 - Stadiwm Wembley

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy