Mae ein toiledau cyhoeddus i gyd ar agor heblaw am:
- Bae Colwyn - Ivy Street - ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Conwy – Canolfan Groeso, Muriau Buildings (Ynghau ar ddydd Sul a dydd Llun)
- Cyffordd Llandudno - ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Eglwysbach - ar gau dros
- Ffordd yr Orsaf, Llanfairfechan - yn aros i gael eu trwsio
- Llanddulas, maes parcio’r traeth - yn aros i gael eu trwsio
- Parc Gwydir, Llanrwst - yn aros i gael eu hailddatblygu
- Pensarn – ar gau er mwyn cynnal gwaith adnewyddu (o 28 Chwefror 2022)
- Stryd y Dŵr, Abergele - ar gau er mwyn cynnal gwaith adnewyddu (o 24 Ionawr 2022 tan 28 Chwefror 2022)
- Trefriw
- Ysbyty Ifan - ar gau dros dro
Rhestr o doiledau cyhoeddus yng Nghonwy (PDF 1.34Mb)
Oriau agor
Yn ystod misoedd yr haf (o’r Pasg tan yr wythnos gyntaf ym mis Medi)
- Yn cael eu hagor rhwng 07:00 a 10:00 (dibynnu ar leoliad)
- Yn cael eu cau rhwng 19:00 a 21:00 (dibynnu ar leoliad)
Yn ystod misoedd y gaeaf (o’r ail wythnos ym mis Medi tan y Pasg)
- Yn cael eu hagor rhwng 07:30 a 10:00 (dibynnu ar leoliad)
- Yn cael eu cau rhwng 16:30 a 17:30 (dibynnu ar leoliad)
- Bydd y toiledau cyhoeddus ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan
Oriau agor y gaeaf
Conwy – Canolfan Groeso
1 - 31 Hydref 2021
- Dydd Sul a dydd Llun AR GAU
- Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 9.30am i 5.00pm
1 Tachwedd 2021 – 31 Mawrth 2022
- Dydd Sul a dydd Llun AR GAU
- Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 10.00am i 4.00pm
Cwestiynau Cyffredin am Doiledau Cyhoeddus
Beth fydd angen i mi ei wneud i gadw’n ddiogel wrth ddefnyddio’r toiledau?
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr arwyddion. Bydd hyn yn dweud wrthych chi faint o bobl all fynd i mewn ar yr un pryd, lle i aros a lle i gerdded. Mae’n bwysig iawn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol a golchi eich dwylo'n drylwyr.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’r toiledau mewn cyflwr diogel i’w defnyddio?
Os yw bloc toiled yn fach, dim ond un person fydd yn cael mynd i mewn ar y tro. Rydym wedi gosod arwyddion i ddangos lle dylech chi aros a pha ffordd i gerdded.
Bydd rhai o'r wrinalau, sinciau a chuddyglau wedi’u cau i ffwrdd, peidiwch â cheisio eu defnyddio.
Oes angen i mi dalu ac os felly, sut?
Mae'n rhaid talu i ddefnyddio rhai o'n cyfleusterau. Mae cyfarwyddiadau ar y drws ar sut i ddefnyddio’r peiriant talu gyda darnau arian. Ceisiwch beidio dal y drysau ar agor - bydd hyn yn gwneud niwed i’r cloeon ac yn golygu na fydd modd defnyddio’r toiledau.
Pam nad oes yna rywun yn gofalu am bob toiled?
Bydd staff ar y safle drwy’r dydd yn y cyfleusterau prysuraf a bydd staff eraill yn teithio rhwng toiledau.
Cynllun Toiledau Cymunedol
Mae gennym hefyd ymrwymiad i'r Cynllun Toiledau Cymunedol, sy'n gynllun gan Lywodraeth Cymru i annog busnesau lleol i agor eu toiledau i'r cyhoedd.
Nid yw pob busnes sy’n rhan o'r Cynllun Toiledau Cymunedol ar agor ar hyn o bryd.
Mae croeso i chi ddefnyddio'r toiledau hyn am ddim os ydych yn gweld yr arwydd hwn.
Cynllun Toiledau Cymunedol yng Nghonwy (PDF 2.19Mb)