Holiadur Landlordiaid Conwy

Mae’r Cyngor yn cydnabod fod landlordiaid preifat yn chwarae rôl bwysig mewn perthynas â thai. Mae 4505 o landlordiaid cofrestredig yn y sir, sy’n gosod dros 10 000 o gartrefi yng Nghonwy. Ein nod yw helpu landlordiaid i sicrhau cyn lleied o gostau a pheryglon â phosibl; bodloni safonau isafswm statudol a bod yn hyderus yn rheoli tenantiaethau wrth i'r gyfraith newid.

Os ydych chi'n Landlord ar eiddo yng Nghonwy, byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech cystal â threulio 10 munud yn llenwi'r holiadur byr hwn. Bydd pob ateb yn ddienw.

Lluniwyd yr holiadur hwn gan dîm Strategaeth Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Pwrpas yr holiadur yw ein helpu i wella ein dealltwriaeth o’r sector rhentu preifat yng Nghonwy, a’n helpu i gynllunio ein gwasanaethau.

Os oes arnoch angen cymorth i lenwi’r holiadur, neu os hoffech chi lenwi’r holiadur ar fformat gwahanol, cysylltwch â ni dros e-bost - housingstrategy@conwy.gov.uk neu dros y ffôn 01492 576274.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 18.11.2019

Bydd yr wybodaeth a ddarperir isod yn cael ei phrosesu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae’n rhaid i ni gasglu’r wybodaeth er mwyn ein helpu i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer landlordiaid a thenantiaid yng Nghonwy.

Os darperir gwybodaeth bersonol, caiff ei chadw a’i phrosesu’n unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Ni fyddwn yn rhannu unrhyw ddata personol â thrydydd bartïon oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Bydd y Tîm Strategaeth Tai hefyd o bosibl yn rhannu data anhysbys ar gyfer dibenion ymchwil gydag asiantaethau eraill.  Mae gan ddinasyddion hefyd hawl i ofyn am gopi o’r data personol a gedwir amdanoch ac i gywiro unrhyw wallau.  

Ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cadw gwybodaeth am fwy na blwyddyn o ddyddiad diwedd yr ymgynghoriad. Os bydd dinesydd yn teimlo bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cam-drin eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch eu hysbysiadau preifatrwydd ar-lein.

Q1.1
Q1.2
Q1.3 A yw unrhyw un o’ch unedau’n cael eu gosod ar gyfradd bresennol y Lwfans Tai Lleol (ystafell mewn tŷ a rannir - £58.47 yr wythnos, 1 ystafell wely - £80 yr wythnos, 2 ystafell wely - £103.23 yr wythnos, 3 ystafell wely - £123.58 yr wythnos, 4 ystafell wely - £149.59 yr wythnos)?
Q1.4
Q1.5 A ydych yn gosod i denantiaid sy’n derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd?
 
Q1.6 Os nad ydych yn derbyn hawlwyr budd-daliadau, pa wasanaethau gan y Cyngor fyddai’n gallu newid hynny? Ticiwch bob un sy’n berthnasol.
 
Q1.7 A ydych yn rheoli eich eiddo eich hun?
Q1.8 Os ddim, pa wasanaethau ydych yn eu defnyddio?
 
Q1.9 Pam eich bod yn defnyddio asiant? Dewiswch unrhyw resymau sy’n berthnasol.
 
Q1.10
Q1.11 Ar gyfartaledd, am faint mae eich tenantiaid yn aros yn yr eiddo?
Q1.12 Sut fath o denantiaid sydd gennych? (ticiwch bob un sy'n berthnasol).
Q1.13 Yn y 5 mlynedd diwethaf, a ydych wedi profi unrhyw un o’r problemau canlynol mewn perthynas â gosod eich eiddo?
 
Q1.14 A ydych wedi troi unrhyw denantiaid o’r eiddo yn y 5 mlynedd diwethaf?
Q1.15 Pam wnaethoch chi droi’r tenantiaid o’r eiddo?
 
Q1.16 Os ydych wedi troi tenantiaid o’r eiddo, a wnaethoch ddefnyddio prosesau adran 8 neu brosesau adran 21?
Q1.17 Dros y 5 mlynedd nesaf, beth ydych chi’n fwyaf tebygol o’i wneud?
 
Q1.18 A oes gennych Dystysgrif Perfformiad Ynni cyfredol ar gyfer eich eiddo?
Q1.19 A yw’r sgôr ar Dystysgrif Perfformiad Ynni unrhyw un o’ch eiddo yn F neu G?
Q1.20 A oes gennych unrhyw bryderon nad yw un o’ch eiddo yn bodloni safonau iechyd a diogelwch?
Q1.21 Sut hoffech chi dderbyn gwybodaeth ynghylch materion yn ymwneud â landlordiaid gan y Cyngor (ticiwch bob un sy'n berthnasol)?
 

Amdanoch chi

Mae gan y Cyngor rwymedigaeth i ddangos bod ei wasanaethau a gwybodaeth yn cyrraedd holl rannau o gymdeithas. Er mwyn ein cynorthwyo i fonitro hyn, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ateb y cwestiynau canlynol. Cedwir y wybodaeth hon yn ddienw.

Q1.22 Faint yw eich oed?
Q1.23 Beth yw eich rhyw?
Q1.24 Beth yw eich grŵp ethnig?
 

Diolch am lenwi’r holiadur hwn.

Bydd ymatebion yr arolwg hwn yn ddienw.

 

Cliciwch y botwm ANFON / SUBMIT i orffen.