Darpariaeth mewn ysgolion yng Nghonwy - Mehefin 2020
Hoffem ddiolch i rieni a gofalwyr am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad parhaus yn ystod yr heriau parhaus a achosir gan coronafeirws (Covid-19)
Rydym yn gwerthfawrogi bod gennych nifer o gwestiynau am ddychwelyd i'r ysgol, dyma ychydig o gwestiynau cyffredin.
O 29 Mehefin bydd dwy ddarpariaeth mewn ysgolion:
- Parhad y ddarpariaeth gofal plant brys far gyfer plant Gweithwyr Allweddol (gan gynnwys plant meithrin). Os yw'n gymwys, gall fod angen i rieni a gofalwyr archebu ar-lein i gael mynediad at gymorth gofal plant am ddim ar ddiwrnodau pan fyddant yn gweithio ac nid oes darpariaeth gofal plant amgen. Fodd bynnag, o 22 Mehefin bydd y ddarpariaeth gofal plant dros y penwythnos yn dod i ben. Bydd gofal plant yn cael ei gynnig dros wyliau haf yr ysgol, ond mae Llywodraeth Cymru wedi nodi na fydd ysgolion yn darparu hyn.
Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar yr hyn y bydd yr Awdurdod Lleol yn ei gynnig dros wyliau haf yr ysgol a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd y manylion yn cael eu cadarnhau.
- Cychwyn y ddarpariaeth Dod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu a Pharatoi sydd ar gael ar gyfer pob plentyn oed ysgol (nid meithrinfa neu ôl-16) yn ystod y diwrnod oriau ysgol arferol. Mae hyn yn wirfoddol i blant ei fynychu a chan fod ysgolion yn gweithio gyda chapasiti o 30% ar y mwyaf, bydd plant ar sail rota - gan ganiatáu % o blant fynychu ochr yn ochr â'r ddarpariaeth gofal plant brys.
Gweler y isod glip fideo a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar sut mae ysgolion wedi sefydlu er mwyn cadw at ganllawiau LlC.
Os oes gennych unrhyw ymholiad arall nad ydynt wedi eu cynnwys yms, cysylltwch ag ysgol eich plentyn
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhai Cwestiynau Cyffredin a allai fod o ddiddordeb i chi.
https://llyw.cymru/ysgolion-yn-cynyddu-gweithrediadau-o-29-mehefin-coronafeirws