Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cadeirio ac yn cydlynu Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Conwy. Mae'r grŵp yma'n cynnwys cynrychiolwyr o'r Gyngor a sefydliadau eraill.
Mae'r grŵp yn cyfarfod er mwyn:
- hyrwyddo agweddau ar ddiogelwch digwyddiadau, fel digwyddiadau cymunedol a digwyddiadau mawr eraill:
- Helpu i sicrhau nad yw digwyddiad yn amharu ar iechyd, diogelwch neu les y gymuned y mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ynddi.
- datblygu/hyrwyddo trefniadau gweithio ar y cyd:
- sicrhau bod trefnwyr digwyddiadau yn ymwybodol o'u dyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol, ac mai rôl ymgynghorol yn unig sydd gan Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Conwy. Mae'r grŵp yn gweithio'n agos gydag Adran Digwyddiadau a Marchnata y Cyngor.
Gwybodaeth: