Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn yn helpu dysgwyr ddysgu am y gofynion deddfwriaethol ar gyfer Iechyd a diogelwch, cwblhau asesiadau risg, ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân a rhagofalon ac ymwybyddiaeth o godi a symud yn gorfforol mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau ac arfer da cyfredol.
Manylion y cwrs
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi |
10 Hydref 2025 |
9:30am to 3:30pm |
Old School Lane, Church Walks, Llandudno |
Groundwork |
Am ddim |
Nodau ac amcanion y cwrs
Erbyn diwedd y gweithdy, bydd y dysgwyr yn:
- ymwybodol o ddeddfwriaeth, rheoliadau ac arfer da Iechyd a diogelwch o ran lleoliadau’r blynyddoedd cynnar
- deall cyfrifoldebau cyflogwyr a gweithwyr o fewn y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau
- adnabod peryglon
- deall beth yw asesiad risg
- sut i gwblhau asesiad risg ymarferol
- cwblhau dogfen asesiad risg
- adnabod peryglon tân mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar
- deall rolau staff wrth atal tân
- deall rolau a chyfrifoldebau staff os bydd tân
- nodi tasgau codi a symud yn gorfforol yn y gweithle
- lleihau risgiau wrth godi a symud yn gorfforol