Mae’r dogfennau isod yn darparu canllawiau cynllunio i ddangos sut y gall cynnwys Isadeiledd Gwyrdd (IG) yn rhan greiddiol o ddatblygiad newydd greu manteision ansawdd bywyd i gymunedau a gwella’r amgylchedd naturiol a hanesyddol. Maent yn helpu i roi arweiniad i’r Cyngor ac ymgeiswyr trwy drafodaethau cychwynnol cyn cyflwyno cais, y broses ymgeisio ac wrth ystyried materion a gedwir yn ôl ac amodau cynllunio ynghlwm ag IG. Mae’r canllawiau’n cefnogi CBS Conwy a pholisi’r Cynllun Datblygu Lleol i integreiddio IG yn unol â’r canllawiau sydd i’w gweld ym Mholisi Cynllunio Cymru ar IG a gwella bioamrywiaeth.