Bydd eich casgliadau sbwriel ac ailgylchu yn digwydd ar eich diwrnod arferol heb law am dros wythnos y Nadolig ac wythnos y Flwyddyn Newydd. Gwiriwch eich calendr casgliadau i wybod ar ba ddiwrnod i roi eich gwastraff a'ch ailgylchu allan.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y chwiliad hwn yn gywir a chyfoes. Er hynny, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu anhwylustod a achosir oherwydd yr wybodaeth a roddir yn y chwiliad hwn. Os ydych chi'n cael unrhyw drafferth, gadewch i ni wybod drwy'r ffurflen gysylltu.
Mae'n bosibl na fydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu ar y diwrnod sy'n cael ei nodi ar eich calendr casglu dros wythnosau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Ewch i Bryson Recycling i weld a yw eich diwrnod casglu wedi newid.