Cartref Busnes Trethi Busnes Gostyngiadau Trethi Busnes (NNDR) Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Gwelliannau) (Cymru) 2023
start content

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Cynllun Rhyddhad Gwelliant Annomestig newydd o 1 Ebrill 2024.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod llawer o fusnesau yn ystyried bod y system ardrethi annomestig yn ddatgymhelliad i fuddsoddi mewn gwelliannau i eiddo, gan y gallai unrhyw gynnydd yng ngwerth ardrethol eiddo a fydd yn deillio o hynny arwain at fil uwch.  Mae rhyddhad gwelliannau wedi cael ei gyflwyno er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystr posibl hwn i dwf a buddsoddi yn y sylfaen drethu, o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

Bwriedir i'r rhyddhad gefnogi talwyr ardrethi sy'n buddsoddi mewn gwelliannau i'w heiddo annomestig a fydd yn cefnogi eu busnes, drwy roi rhyddhad rhag yr effaith y byddai cynnydd mewn gwerth ardrethol o ganlyniad i'r gwelliannau hynny yn ei chael ar eu rhwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig am gyfnod o 12 mis.

Cymhwysir y rhyddhad drwy gyfrifo swm yr ardrethi annomestig y gellir ei godi ar gyfer yr eiddo perthnasol fel petai'r gwerth ardrethol ar y rhestr ar gyfer y diwrnod dan sylw yn cyfateb i'r gwerth ardrethol hwnnw llai'r cynnydd mewn gwerth ardrethol y gellir ei briodoli i'r gwaith gwella sy'n gymwys.

Am ragor o wybodaeth gweler canllawiau Llywodraeth Cymru.

end content