Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trethi Busnes Newidiadau i eiddo hunan-arlwyo

Newidiadau i eiddo hunan-arlwyo


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Ardreth Annomestig (Diwygio Diffiniad Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

Newidiwyd y gofynion gosod i eiddo hunanddarpar gael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig ar 1 Ebrill 2023.

Mae gofyn i eiddo fod ar gael i’w osod am isafswm o 252 o ddiwrnodau mewn cyfnod o 12 mis ac mae gofyn iddo fod wedi’i osod am isafswm o 182 o ddiwrnodau.

Mae’r meini prawf hyn wedi cael eu defnyddio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) wrth asesu eiddo ers 1 Ebrill 2023. Ewch i wefan Busnes Cymru am ragor o wybodaeth.

Sut mae eiddo hunanddarpar yn cael eu hasesu ar gyfer ardrethi busnes

Mae ASB yn gyfrifol am gynnal y rhestrau Treth y Cyngor a rhestrau Ardrethi Annomestig (Ardrethi Busnes). Rydym yn defnyddio'r rhestrau hyn i benderfynu a yw eiddo yn gymwys ar gyfer Treth Y Cyngor neu Ardrethi Busnes.

Y llywodraeth sy'n pennu'r meini prawf i weld os yw eiddo hunanddarpar yn gymwys ar gyfer Ardrethi Busnes. Mae ASB yn gwneud ei phenderfyniadau yn seiliedig ar y polisi hwn.

Mae polisïau eraill a all effeithio ar faint rydych chi’n ei dalu - er enghraifft, os yw'r eiddo yn ail gartref, efallai y byddwch chi'n talu premiwm (x y cant) ar ben y swm safonol.

Mae sawl ffordd y mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnal eiddo hunanddarpar ar restrau Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes:

  • trwy ymateb i wybodaeth a ddarperir yn rhagweithiol gan gwsmeriaid - er enghraifft, pan fyddant yn gwybod eu bod wedi bodloni'r meini prawf gosod ar gyfer ardrethi busnes
  • trwy ysgrifennu at berchnogion eiddo hunanddarpar, gan ofyn am wybodaeth gosodiadau (mae hyn ar hyn o bryd yn digwydd bob dwy flynedd ar gyfer pob eiddo ar y rhestr ardrethi busnes, ac weithiau cyfeirir ato fel gweithgaredd cydymffurfio).
  • trwy geisiadau am wybodaeth bob tair blynedd, i hysbysu ailbrisiad o bob eiddo ardrethi busnes

Mae rhagor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd ar gyfer aros yn y rhestr Ardrethi Busnes a sut i ddweud wrth Asiantaeth y Swyddfa Brisio os a yw eich eiddo wedi bodloni'r meini prawf ar wefan GOV.UK.

end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?