Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Iechyd yr Amgylchedd Diogelwch bwyd Cychwyn a Chofrestru busnes bwyd

Sefydlu a Chofrestru Busnes Bwyd


Summary (optional)

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod os ydych yn meddwl sefydlu eich busnes bwyd eich hun.

Sut i gofrestru. Os ydych chi'n berchen neu wedi derbyn rheolaeth o fusnes bwyd yng Nghonwy, mae'n ofyniad cyfreithiol i gofrestru unrhyw fusnes gyda ni o leiaf 28 diwrnod cyn agor neu gymryd perchnogaeth. Gellir gwneud hyn ar-lein neu drwy'r post. 

start content

Mae'n ofyniad cyfreithiol cofrestru unrhyw eiddo a ddefnyddir i weithredu busnes bwyd. Mae hyn yn cynnwys elusennau, stondinau marchnad, cerbydau danfon a busnesau bwyd symudol eraill.

Bydd angen i chi hefyd ystyried a oes angen cymeradwyo eich adeilad busnes er enghraifft os ydych yn gwneud, yn paratoi neu’n trin bwyd sy'n dod o anifeiliaid i'w gyflenwi i fusnesau eraill. Mae gennych gyfrifoldeb hefyd i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'r busnes, y gweithgareddau neu os yw'r busnes yn cau, o fewn 28 diwrnod o'r newid. 

Sut i gofrestru

Os ydych yn berchen ar fusnes bwyd yng Nghonwy, neu wedi cymryd drosodd busnes bwyd yng Nghonwy, mae'n ofyniad cyfreithiol i gofrestru eich busnes gyda ni o leiaf 28 diwrnod cyn agor neu gymryd perchnogaeth ohono. Gellir gwneud hyn drwy wneud cais ar-lein neu drwy'r post.

 

Ffioedd

Ni chodir ffi i gofrestru busnes bwyd.


Cyngor ac Arweiniad

  • Cyn cofrestru eich busnes rydym yn argymell eich bod yn mynd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Maent yn cynnig llawer iawn o wybodaeth i fusnesau bwyd o bob math.
  • Bydd hefyd yn ofynnol i chi gael system rheoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion HACCP sy'n weithredol.
  • Gall ymweliad cyngor busnes newydd hefyd gael ei drefnu gyda swyddog o'r tîm (cyn agor), er mwyn sicrhau bod y strwythur, y cynllun a systemau arfaethedig yn briodol ar gyfer y busnes.

Prosesu ac Amserlenni

  • Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn cadarnhad mewn ysgrifen a bydd arolwg yn cael ei gynnal fel arfer o fewn 28 diwrnod. Yn seiliedig ar yr arolwg cychwynnol, byddwch yn cael sgôr hylendid bwyd yn seiliedig ar ganfyddiadau’r swyddogion
  • Bydd y manylion busnes hefyd yn cael eu cofnodi ar gofrestr gyhoeddus (enw a chyfeiriad busnes, math o fusnes)

Cysylltwch â ni

Os hoffech fwy o gyngor a help, cysylltwch â ni.

Tîm Diogelwch Bwyd,
Blwch Post 1,
Bae Colwyn,
LL29 0GG

E-bost:  foodsafety-healthandsafety@conwy.gov.uk
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?