Trosolwg o'r cwrs
Mae'r cwrs yn ddiweddariad o'r sgiliau achub bywyd ac yn cynnwys:
- Deall rôl y cymhorthydd cyntaf, gweithredu'n ddiogel, croes-heintio, cofnodi digwyddiadau, yr offer sydd ar gael a'u defnydd
- Rhoi cymorth cyntaf i glaf sy'n anymwybodol
- Gweinyddu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a sut i gael mynediad at AED (Defibrillator) a'i ddefnyddio
- Rhoi cymorth cyntaf i glaf sy'n tagu, wedi'i glwyfo neu'n dioddef o sioc
- Darparu cymorth cyntaf priodol ar gyfer mân anafiadau, mân doriadau, sgryffiniadau, mân losgiadau a sgaldiadau
- Rhoi cymorth cyntaf i unigolyn sydd wedi anafu esgyrn, cyhyrau a chymalau, gan gynnwys anafiadau posibl i'r asgwrn cefn, anafiadau i'r frest, llosgiadau a sgaldiadau, anafiadau i'r llygad, gwenwyniad sydyn, sioc anaffylactig
- Cydnabod afiechyd mawr a darparu cymorth cyntaf priodol gan gynnwys trawiad ar y galon, strôc, epilepsi, asthma a diabetes
- Cynhelir asesiadau Ffurfiannol a Chrynodol yn ystod y cwrs i sicrhau bod yr amcanion dysgu wedi'u cyflawni.
Manylion y cwrs
- Hyd: Deuddydd/lleiafswm o 12 awr cyswllt - 9:15am i 4:15pm
- Cost: £152 (£160 o fis Ebrill 2026)
- Lleoliad: Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ
Dyddiadau'r cwrs
- 2026:
- 7 and 8 Ionawr
- 9 a 10 Chwefror
- 3 a 4 Mawrth
- 20 a 21 Ebrill
- 25 a 26 Mai
- 30 Mehefin a 1 Gorffennaf
- 8 a 9 Medi
- 30 Medi a 1 Hydref
- 2 a 3 Tachwedd
- 23 a 24 Tachwedd
- 1 a 2 Rhagfyr
- 2027:
- 25 a 26 Ionawr
- 1 a 2 Chwefror
- 18 a 19 Chwefror
- 4 a 5 Mawrth