Mae'r Adran Ystadau a Rheoli Asedau yn delio gyda gwerthu a gosod eiddo diangen, sy'n gallu cynnwys cartrefi gofal, swyddfeydd, tir datblygu, cyfleoedd datblygu o fewn adeiladau'r Cyngor sydd wedi'u digomisiynu, tir amwynder neu erddi, tir pori a deiliadaethau amaethyddol.
Wrth i'r Cyngor edrych ei asedau, mae'n bosib na fydd angen pob un ohonynt a gall gael gwared â rhai drwy werthu rhydd-ddaliad (ar werth), neu eu gosod ar brydles (ar osod).
Nid yw'r Cyngor yn cadw rhestr bostio o ymgeiswyr sy'n chwilio am eiddo'r Cyngor sydd ar werth. Mae'n argymell bod y rhai sy'n awyddus i gaffael tir ac adeiladau yn edrych ar y wefan ac ar hysbysebion yn y wasg leol yn rheolaidd i weld beth sydd ar gael.
Eiddo sydd ar werth neu ar osod ar hyn o bryd: