Y wybodaeth ddiweddaraf: Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o Fwrdd Cymdogaeth Llandudno, anfonwch e-bost gyda’ch manylion cyswllt at LlandudnoPiP.Programme@conwy.gov.uk.
Gwybodaeth am Gronfa Effaith Balchder Bro Sir Conwy.
Mae hyd at £20 miliwn (hyd at £2 filiwn y flwyddyn dros ddeng mlynedd) wedi’i ddyrannu i Gonwy drwy Raglen Balchder Bro Llywodraeth Cymru.
content
Mae ardal Cymdogaeth Balchder Bro Llandudno yng Nghonwy yn cynnwys rhannau o wardiau Tudno a Mostyn yn Llandudno
content
Adeiladu cymunedau cryfach:
Dylai bod perthnasau cryf a synnwyr cyfun o berthyn i’w cymuned ym mhobman. Bydd hyn yn helpu i ddod â phobl ynghyd i adeiladu cadernid a chydlyniant cymunedol, gan helpu pobl i deimlo’n falch o’u hardal a theimlo’n ddiogel yn eu cymdogaeth.
Creu llefydd llewyrchus: Mae pob rhan o’r DU yn haeddu cael cymdogaethau a chymunedau bywiog gyda strydoedd mawr prysur, ystod dda o amwynderau lleol ac isadeiledd ffisegol o ansawdd uchel.
Cymryd Rheolaeth yn ôl: Caiff talent ei rannu’n gyfartal, ond nid yw hynny’n wir am gyfleoedd. Dylai bawb gael eu grymuso a theimlo rheolaeth dros eu bywydau a chael dweud eu barn am ddyfodol eu cymuned.
content
Preswylwyr lleol sy’n deall eu cymuned orau, a byddant wrth wraidd y gwaith o ddarparu’r rhaglen hon. Bydd Bwrdd Cymdogaeth newydd yn cael ei sefydlu a bydd yn penderfynu sut mae cyllid yn cael ei ddefnyddio, gan sicrhau bod gan bobl leol rôl ganolog i siapio dyfodol yr ardal. Bydd gan y Bwrdd Gadeirydd Annibynnol.
Bydd y Bwrdd Cymdogaeth yn dod â thrigolion, busnesau lleol, ymgyrchwyr llawr gwlad, cynrychiolwyr y gweithle, ffydd, AS lleol ac arweinwyr cymunedol a’r rhai gyda chysylltiad dwfn â’r ardal ynghyd.
Drwy ymgysylltu â’r gymuned ehangach, bydd y Bwrdd Cymdogaeth yn datblygu gweledigaeth 10 mlynedd ar y cyd ar gyfer dyfodol yr ardal ac yn amlinellu cynllun clir, gyda chefnogaeth yr AS lleol a’r awdurdod lleol i ddarparu amcanion strategol y rhaglen.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithredu fel y corff atebol ar gyfer y cyllid, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod yr arian cyhoeddus y cael ei ddosbarthu’n deg ac effeithiol ac yn unol â’r prosesau gofynnol. Fodd bynnag, bydd y weledigaeth a’r cynllun ei hun yn cael ei ddatblygu a’i berchnogi gan y gymuned, gan roi’r awenau'n gadarn yn nwylo pobl leol.
Os ydych yn byw’n lleol, dyma eich cyfle i helpu i lunio dyfodol Tudno a Mostyn - cymerwch ran, rhannwch eich syniadau a chwarae rhan mewn llywio newid go iawn. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ac unrhyw fanylion pellach yn fan hyn.
Y camau nesaf:
- Penodi Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd Cymdogaeth - Mai 2026
- Sefydlu’r Bwrdd Cymdogaeth - Mehefin 2026
- Ymgysylltu’n Barhaus â'r Gymuned
Dolenni allanol: