Os ydych yn anfodlon gyda'r gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gallwch gwyno i unrhyw aelod o’n staff.
Siaradwch â'r bobl gysylltiedig yn gyntaf. Er enghraifft, os yw'r gŵyn am gyfleuster cyhoeddus fel theatr neu ganolfan hamdden, gofynnwch am gael siarad â'r goruchwyliwr neu'r rheolwr ar ddyletswydd. Fel arfer bydd yr unigolyn rydych yn siarad ag ef/hi yn gallu datrys eich cwyn yn rhwydd ac ni fydd angen i chi gymryd camau pellach.
Neu gallwch lenwi'r ffurflen cwynion ar-lein
Neu, gallwch gysylltu â:
Uned Gwynion,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN
Rhif Ffôn: 01492 576070 (bydd galwadau i'r rhif hwn yn cael eu recordio)
E-bost: cwynion@conwy.gov.uk
Nodwch: Nid yw pob cwyn yn addas i gael eu datrys drwy ein polisi cwynion. Darllenwch y rhestr wirio isod cyn cyflwyno eich cwyn.
Eich Problem | Beth ddylech chi ei wneud? |
Adrodd problem
|
Siarad â’r gwasanaeth perthnasol
|
Rhywbeth lle mae gennych hawl i apelio
|
Dilyn y broses apelio
|
Pryderon am sefydliadau eraill e.e. y GIG, yr Heddlu, Cyngor Tref neu Gymuned
|
Cyfeirio at y corff cywir
|
1) Pryder ynglŷn ag ymddygiad Cynghorydd,
|
Cyfeirio at yr Ombwdsmon yn: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 1 Ffordd yr Hen Gae Pencoed CF35 5LJ.
|
neu
|
|
2) Anfodlonrwydd gyda chanlyniad ein proses gwyno fewnol ar ddiwedd cam 2
|
e-bost: holwch@ombwdsmon-cymru.org.uk Gwe: www.ombwdsmon-cymru.org.uk Ffôn: 0300 790 0203
|
Cwynion am y Gwasanaethau Cymdeithasol
|
Cyfeirio at Swyddog Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol:
Swyddog Cwynion Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol Blwch Post 1 Conwy LL30 9GN
Ffôn: 01492 574078 e-mail cwynion.gwasanaethau.cymdeithasol.conwy@conwy.gov.uk
|
Materion yn ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data
|
Cyfeirio at yr Uned Llywodraethu Gwybodaeth: Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Bodlondeb, Conwy LL32 8DU Ffôn: 01492 576070 e-bost: uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
|
Pryderon ynglŷn ag ysgol
|
Cyfeirio at yr ysgol ei hun
|
Pryderon yn ymwneud â sefydliad allanol lle mae Swyddog neu Aelod o'r Cyngor yn cynrychioli'r Cyngor
|
Cyfeirio at y sefydliad ei hun
|
Pryderon yn ymwneud â mater pan fo camau cyfreithiol yn cael eu dilyn ar hyn o bryd
|
Aros nes i’r camau cyfreithiol gael eu cwblhau
|