Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cwblhau eich ffurflen gais


Summary (optional)
start content
Cyn cwblhau ffurflen gais, darllenwch y disgrifiad swydd a’r manylion am yr unigolyn y gellir dod o hyd iddynt ym mhob hysbyseb swydd. Bydd hyn yn rhoi teimlad cyffredinol i chi ynglŷn â’r swydd a beth yw’r gofynion ar gyfer ymgeisio.

Mae’r gofynion wedi’u rhannu’n ddau gategori:

  • Meini prawf hanfodol - mae’r rhain yn llythrennol yn hanfodol i wneud y swydd. Mae’n rhaid i chi ddangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn i gael eich ystyried am gyfweliad. Os ydych yn ansicr a ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Mae’r manylion cyswllt i’w gweld mewn hysbysebion swyddi.
  • Meini prawf dymunol - yn ychwanegol at y meini prawf hanfodol, mae’r meini prawf dymunol yn ein helpu i lunio rhestr fer o ymgeiswyr i gael cyfweliad. Bydd dangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf dymunol yn cryfhau eich cais. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth cyn gwneud cais am swydd, cysylltwch â’r rheolwr recriwtio. Mae’r manylion cyswllt i’w gweld mewn hysbysebion swyddi.

I gyrraedd y cam cyfweld, mae’n rhaid i chi ddangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf hanfodol o fewn eich ffurflen gais. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw drwy ysgrifennu paragraff/au ar gyfer pob pwynt hanfodol yn y meini prawf.

Ar ôl cyflwyno eich cais, byddwch yn cael cydnabyddiaeth bod eich cais wedi ei dderbyn. Fe allwch chi hyd yn oed gadw rhywfaint o fanylion eich cais rhag ofn y byddwch chi eisiau gwneud cais am swydd arall yn y dyfodol.

Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau technegol wrth lenwi eich ffurflen gais, ffoniwch 01492 576129 neu e-bostiwch cefnogaethsystemad@conwy.gov.uk lle bydd aelod o’r tîm yn hapus i helpu.
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?