Rydym yn darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth i bobl sydd:
Os ydych chi’n credu eich bod chi – neu rywun yr ydych yn eu hadnabod – angen asesiad, gallwch gysylltu â’r tîm UPM (Un Pwynt Mynediad) a gofyn i gael eich cyfeirio at y Tîm Colli Synhwyrau.
Ffôn: 0300 456 1111 (Llun - Iau, 9am tan 4.45pm a dydd Gwener 9am tan 4.15pm)
E-bost: lles@conwy.gov.uk
Mae tîm Colli Synhwyrau Conwy yn cynnig cyngor a chymorth cyffredinol ac arbenigol, asesiadau (gan gynnwys asesiadau arbenigol i bobl sy’n ddall a byddar) a gwasanaeth atgyfeirio, cymorth ag offer a gwasanaeth adsefydlu i bobl sydd â nam ar eu clyw.
Sut i gysylltu â ni:
- Ffôn testun – gwasanaeth 'am ddim’ – (heblaw am eich bil ffôn arferol) deialwch 18001 cyn y rhif yr hoffech ei ffonio.
Arwydd dehonglydd fideo
- Sesiwn alw heibio wyneb yn wyneb bob pythefnos gyda dehonglydd BSL yng Nghanolfan Marl ar gyfer trafodaethau mwy manwl / cymhleth / sensitif bob yn ail ddydd Mercher o 3pm tan 7pm.
Dolenni defnyddiol