Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Seddi Gwag Cyngor Cymuned Bro Garmon - Ward Capel Garmon: Hysbysiad o Etholiad

Cyngor Cymuned Bro Garmon - Ward Capel Garmon: Hysbysiad o Etholiad


Summary (optional)
start content

Hysbysiad o Etholiad

Cyngor Cymuned Bro Garmon - Ward Capel Garmon

Cynhelir etholiad ar gyfer un Cynghorydd Tref ar gyfer Cyngor Cymuned Bro Garmon (ward Capel Garmon)
Dyddiad yr Etholiad: Dydd Iau, 23 Gorffennaf 2026

Cael papurau enwebu

1. Gellir cael papurau enwebu gan y Swyddog Canlyniadau un ai ym Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ neu’n electronig drwy etholiadol@conwy.gov.uk.

Cyflwyno papurau enwebu

2. Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau ddim hwyrach na 4pm ddydd Gwener, 26 Mehefin 2026.
3. Gellir danfon papurau enwebu yn bersonol i’r Swyddog Canlyniadau ym Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn (ac eithrio gwyliau banc) neu’n electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflwyno electronig isod.
4. Os bydd etholiad, cynhelir y bleidlais dydd Iau, 23 Gorffennaf 2026.

Cofrestru Etholwyr

5. Rhaid i geisiadau i ychwanegu enw at y Gofrestr Etholwyr er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ erbyn dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2026. Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Pleidlais bost a thrwy ddirprwy

6. Dylai etholwyr a’u dirprwyon nodi bod yn rhaid i bob cais am bleidlais bost newydd, neu bob cais i ddiwygio neu ganslo pleidlais bost bresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ erbyn 5pm, ddydd Mercher, 8 Gorffennaf 2026. Mae hyn yn cynnwys etholwyr neu eu dirprwyon sy’n dymuno diwygio eu trefniadau presennol yn barhaol.
7. Rhaid i bob cais am bleidlais drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ erbyn 5pm, ddydd Mercher, 15 Gorffennaf 2026.
8. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy brys yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith/gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm, ddydd Iau, 23 Gorffennaf 2026. Rhaid i’r rheswm fod wedi digwydd ar ôl 5pm ddydd Mercher, 15 Gorffennaf 2026.

Datganiad cyflwyno’n electronig

9. Gellir cyflwyno papurau enwebu yn electronig yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad hwn -


Sylwer:

  • Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn cael y ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y dyddiadau cau.
  • Nid yw derbynneb electronig bod y neges wedi ei ddarllen gan y Swyddog Canlyniadau yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad i roi gwybod i ymgeiswyr am ei benderfyniad a yw eu henwebiad yn ddilys neu beidio.
  • Os bydd arnoch angen cymorth i gyflwyno eich enwebiadau’n electronig, cysylltwch ag etholiadol@conwy.gov.uk.

 

Rhun_ap_Gareth_Signature

Rhun ap Gareth, Swyddog Canlyniadau

Dyddiedig: Dydd Iau, 18 Mehefin 2026
Argraffwyd a chyhoeddwyd gan: y Swyddog Canlyniadau, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ Rhif ffôn: 01492 576051/2

end content