Hysbysiad o Etholiad
Cyngor Tref Abergele - Ward Gele
Cynhelir etholiad ar gyfer un Cynghorydd Tref ar gyfer Cyngor Tref Abergele (ward Gele)
Dyddiad yr Etholiad: Dydd Iau, 20 Tachwedd 2025
Cael papurau enwebu
- 1. Gellir cael papurau enwebu gan y Swyddog Canlyniadau un ai ym Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ neu’n electronig drwy etholiadol@conwy.gov.uk.
Cyflwyno papurau enwebu
- 2. Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau ddim hwyrach na 4pm ddydd Gwener, 24 Hydref 2025.
- 3. Gellir danfon papurau enwebu yn bersonol i’r Swyddog Canlyniadau ym Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn (ac eithrio gwyliau banc) neu’n electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflwyno electronig isod.
- 4. Os bydd etholiad, cynhelir y bleidlais dydd Iau, 20 Tachwedd 2025.
Cofrestru Etholwyr
- 5. Rhaid i geisiadau i ychwanegu enw at y Gofrestr Etholwyr er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ erbyn dydd Mawrth, 4 Tachwedd 2025. Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Pleidlais bost a thrwy ddirprwy
- 6. Dylai etholwyr a’u dirprwyon nodi bod yn rhaid i bob cais am bleidlais bost newydd, neu bob cais i ddiwygio neu ganslo pleidlais bost bresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ erbyn 5pm, ddydd Mercher, 5 Tachwedd 2025. Mae hyn yn cynnwys etholwyr neu eu dirprwyon sy’n dymuno diwygio eu trefniadau presennol yn barhaol.
- 7. Rhaid i bob cais am bleidlais drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ erbyn 5pm, ddydd Mercher, 12 Tachwedd 2025.
- 8. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy brys yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith/gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm, ddydd Iau, 20 Tachwedd 2025. Rhaid i’r rheswm fod wedi digwydd ar ôl 5pm ddydd Mercher, 12 Tachwedd 2025.
Datganiad cyflwyno’n electronig
- 9. Gellir cyflwyno papurau enwebu yn electronig yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad hwn -
- Gwiriadau anffurfiol - dros e-bost at etholiadol@conwy.gov.uk. Rhowch ‘GWIRIAD ANFFURFIOL – GELE’ yn nhestun y neges
- Cyflwyno enwebiadau - ewch i www.conwy.gov.uk/enwebiadau a chyflwynwch y papur enwebu drwy’r porth ar-lein
Sylwer:
-
- Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn cael y ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y dyddiadau cau.
- Nid yw derbynneb electronig bod y neges wedi ei ddarllen gan y Swyddog Canlyniadau yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad i roi gwybod i ymgeiswyr am ei benderfyniad a yw eu henwebiad yn ddilys neu beidio.
- Os bydd arnoch angen cymorth i gyflwyno eich enwebiadau’n electronig, cysylltwch ag etholiadol@conwy.gov.uk.
Rhun_ap_Gareth_Signature
Rhun ap Gareth, Swyddog Canlyniadau
Dyddiedig: Dydd Iau, 16 Tachwedd 2025
Cyhoeddwyd gan: y Swyddog Canlyniadau, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ
Rhif ffôn: 01492 576052