Cartref Cyngor Hygyrchedd y wefan Cynnwys anhygyrch
start content

Diffyg cydymffurfiaeth gyda’r rheoliadau hygyrchedd

Ceisiadau trydydd parti


Rydym yn ymwybodol nad yw’r systemau trydydd parti canlynol yn cydymffurfio’n llawn gyda'r safonau hygyrchedd a defnyddioldeb, gan eu bod tu hwnt i’n rheolaeth:

  • Ffurflenni ar-lein
  • System Wybodaeth Ddaearyddol (Mapiau) (mapiau@conwy.gov.uk)
  • Gwneud cais am swyddi gwag (iTrent)
  • System taliadau
  • System catalog y llyfrgell
  • Y Porth Cynllunio
  • Cofnodion a rhaglenni Pwyllgorau
  • Mapiau ar-lein
  • System Porth Treth y Cyngor


Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein ceisiadau trydydd parti ac yn gweithio gyda chyflenwyr i wella hygyrchedd y systemau hyn.

Dogfennau Adobe PDF a Word

Nid yw rhai o'n dogfennau PDF a Word a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2018 yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i raglen darllen sgrin. 

Ein nod yw disodli dogfennau PDF a Word ar ein gwefan gyda thudalennau HTML hygyrch lle y bo’n bosibl.

Wrth ystyried a allwn ddarparu'r wybodaeth mewn fformat hygyrch, byddwn yn asesu’r canlynol:  

  • faint fyddai'r gwaith yn ei gostio a'r effaith y byddai cyflawni'r gwaith yn ei chael arnom
  • faint fyddai defnyddwyr ag anabledd yn elwa o wneud y gwaith

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content