Gwasanaethau dibreswyl
Uchafswm ffi wythnosol o £100
Cyfrifir y costau yn ôl eich sefyllfa ariannol a faint o wasanaeth a'r math o wasanaeth a gewch bob wythnos. Mae'r taliadau llawn o 7 Ebrill 2025 yn:
- £27.60 yr awr am ofal gartref yn ystod y dydd; a
 
- £27.60 yr awr am ofal dros nos
 
Gwasanaethau dydd
Cyfrifir y costau yn ôl eich sefyllfa ariannol. Mae'r taliadau llawn o 7 Ebrill 2025 yn:
- £25.98 am ddiwrnod llawn
 
- £12.99 am hanner diwrnod
 
 
Tudalen Talu am Wasanaethau Preswyl a Dibreswyl
Faint sy’n rhaid i mi ei dalu?
Bydd y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu'n dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- os ydych yn cael gofal seibiant byr neu’n aros am gyfnod hirach
 
- os oes gennych bartner sy’n dal i fyw gartref
 
- eich incwm wythnosol, yn cynnwys eich pensiwn
 
- pa lwfansau eraill y mae gennych hawl i’w derbyn
 
- swm eich cynilion ac asedau eraill
 
- a ydych chi’n berchen ar eich eiddo eich hun ai peidio
 
Gellir canfod y manylion llawn yn ein taflen Talu am Wasanaethau nad ydynt yn rhai Preswyl (PDF).
Gellir canfod y manylion llawn am y Cynllyn Taliadau Gohiriedig y ein taflen Talu am Ofal Preswyl - Y Cynllun Taliadau Gohiriedig (PDF).