Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ceiswyr Noddfa


Summary (optional)
start content

Ynglŷn â Cheiswyr Noddfa

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i bobl sy’n ceisio noddfa sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi yn sgil gwrthdaro, erlyniad, trais neu drychinebau dyngarol. 

Mae’r Cyngor yn gweithio gydag ystod o bartneriaid cenedlaethol a lleol i helpu unigolion a theuluoedd i ymgartrefu’n ddiogel o fewn y gymuned. Gall pobl sy’n ceisio noddfa gyrraedd y DU trwy nifer o lwybrau gwahanol, gan gynnwys cynlluniau adleoli, adsefydlu ffoaduriaid a lloches trwy Lywodraethau’r DU a Chymru.

Mae’r Tîm Adsefydlu a Chynhwysiant Cymunedol yn helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau, adeiladu annibyniaeth a dod yn aelodau actif o’u cymunedau lleol. 

Pa Gefnogaeth a Ddarperir?

Mae’r Tîm Adsefydlu a Chynhwysiant Cymunedol yn gweithio ar y cyd gyda gwasanaethau statudol, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gydlynu cefnogaeth ar gyfer pobl sy’n cyrraedd Conwy. 

Gallai’r gefnogaeth gynnwys:

  • Helpu i gael mynediad at lety addas
  • Cofrestru gyda darparwyr gofal iechyd
  • Cefnogaeth ysgolion ac addysg
  • Cyngor ar fudd-daliadau a lles
  • Cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Dysgu Saesneg (ESOL)
  • Gweithgareddau integreiddio cymunedol
  • Cyfeirio pobl at wasanaethau cymorth arbenigol 

Y nod yw helpu unigolion a theuluoedd i ymgartrefu’n llwyddiannus, dod yn annibynnol a chyfrannu’n gadarnhaol i’w cymunedau. 

Cefnogi Integreiddiad Cymunedol

Mae integreiddio yn broses ddwy ffordd sy’n elwa’r rhai sy’n cyrraedd a’r cymunedau presennol.

Mae nifer o geiswyr noddfa yn dod a sgiliau, cymwysterau, profiad ac amrywiaeth ddiwylliannol werthfawr i’r ardaloedd y maent yn ymgartrefu ynddynt. Trwy gyfranogiad cymunedol, gwirfoddoli, addysg a chyflogaeth, gall unigolion wneud cyfraniadau ystyrlon i fywyd lleol wrth feithrin cysylltiadau parhaol o fewn eu cymdogaethau.

Mae Conwy’n gweithio’n agos gyda sefydliadau lleol i hybu cynhwysiant, dealltwriaeth a chydlyniant cymunedol. 

Dysgu Saesneg

Mae dysgu Saesneg yn un o’r camau pwysicaf i helpu pobl ymgartrefu a dod yn annibynnol.

Mae’r Tîm Adsefydlu a Chynhwysiant Cymunedol yn gweithio gyda darparwyr addysg lleol a sefydliadau partner i helpu pobl gael mynediad at gyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Mae’r cyrsiau hyn yn cefnogi cyfathrebu, cyfleoedd cyflogaeth a chyfranogiad mewn bywyd cymunedol. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyrsiau ESOL yma: Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Buddion Cymunedol

Mae rhaglenni adsefydlu a noddfa yn helpu i gryfhau cymunedau trwy:

  • Hybu dealltwriaeth ddiwylliannol
  • Cefnogi cyfranogiad yn y gweithlu
  • Annog gwirfoddoli cymunedol
  • Helpu sefydliadau lleol i ddatblygu gwasanaethau cynhwysol
  • Cyfoethogi bywyd cymunedol trwy amrywiaeth a phrofiadau a rennir

Mae Conwy’n falch o fod yn rhan o ymrwymiad Cymru i ddod yn Genedl Noddfa, lle gall bobl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi, ddod o hyd i ddiogelwch, cefnogaeth a chyfleoedd i ail-adeiladu eu bywydau. 

Rhagor o wybodaeth

Gellir dod o hyd i wybodaeth ac adnoddau defnyddiol yma

end content