Yn eu cyfarfod ar 9 Mehefin 2026, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y dylid symud y cynnig i gau Ysgol Betws y Coed ymlaen i'r cyfnod hysbysiad statudol.
Mae'r hysbysiad hwn yn nodi dechrau Cyfnod Gwrthwynebu 28 diwrnod o 24 Mehefin 2026 i 21 Gorffennaf 2026 ac yn nodi'r cyfeiriad y gellir cyflwyno gwrthwynebiadau ysgrifenedig iddo.
O fewn cyfnod o 28 diwrnod i'r dyddiad y cyhoeddwyd y cynnig, hynny yw erbyn 21 Gorffennaf 2026, gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig hwn drwy:
P'un a dderbynnir gwrthwynebiadau o fewn y cyfnod statudol ai peidio; bydd yr Awdurdod yn penderfynu ar y cynnig ar ôl y cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod.
Dogfennau:
Hanes yr ymgynghoriad:
content
Yn y cyfarfod ar 11 Tachwedd 2025, rhoddodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gymeradwyaeth i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad i ystyried y posibilrwydd o gau Ysgol Betws y Coed.
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn para o 28 Tachwedd 2025 tan 9 Ionawr 2026.
Bydd y Cyngor yn ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau a wneir yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad hwn.
O ganlyniad i’r ymgynghoriad, gallai'r Cyngor benderfynu peidio â bwrw ymlaen ymhellach â’r cynnig neu fwrw ymlaen â’r cynnig neu addasiad ohono. Byddai unrhyw gynnig ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ar ffurf hysbysiad statudol cyhoeddus.
Mae gan y Cyngor bwerau i gynnig ehangu neu gau ysgolion. Pe bai’r cynigion yn cael eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod ymgynghori hwn, yna byddai cyfnod statudol o 28 diwrnod lle gellir cyflwyno sylwadau pellach a gwrthwynebiadau ffurfiol.
Ni fydd unrhyw ymatebion yn ystod yr Ymgynghoriad yn cael eu hystyried fel gwrthwynebiadau ffurfiol. Er mwyn i ymatebion gael eu hystyried fel gwrthwynebiadau statudol mae’n rhaid eu cyflwyno yn ysgrifenedig neu drwy e-bost o fewn y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod.
P'un a fydd gwrthwynebiadau yn dod i law o fewn y cyfnod statudol ai peidio, bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod. Disgwylir i Gabinet Conwy benderfynu ar y cyhoeddiad hwn ym mis Mawrth 2026.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad i’r Cabinet ei ystyried yn ystod tymor ysgol y gwanwyn.