Mae’r strategaeth yn amlinellu’r cyfeiriad strategol ar gyfer ein gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth tai Conwy. Paratowyd y Strategaeth hon yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd asesiad anghenion cynhwysfawr gydag ystod o fudd-ddeiliaid, ac yna ymgynghoriad pellach. Mae hyn wedi arwain at nodi’r blaenoriaethau strategol canlynol:
- Symud tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym wrth ddarparu gwasanaethau atal digartrefedd.
- Cryfhau ein gwaith partneriaeth i sicrhau bod anghenion cymorth pobl yn cael eu bodloni, a’n bod yn ymdrin ag anghenion mwy cymhleth/dwys drwy ddarparu cymorth aml-asiantaethol.
- Darparu gwasanaethau ychwanegol i bobl sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig.
- Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd Ieuenctid.
Dogfennau:
Nesaf: Asesiad o Farchnad Dai Leol