Mae gostyngiadau tai fforddiadwy wedi cael eu cyfrifo ar gyfer pob ardal marchnad dai leol, fel y nodwyd yn yr Asesiad o Farchnad Dai Leol Conwy 2022-2037.
Mae’r rhain yn adlewyrchu prisiau tai lleol a chanolrif incwm aelwydydd ar gyfer bob ardal fechan.
Gostyngiadau tai fforddiadwy 2026-2027
Mae tabl hwn yn dangos y gostyngiad sy’n cael ei gynhwyso i’r cynnyrch canolradd sydd ar werth (perchentyaeth cost isel a rhent canolradd lleol) ar draws y pum ardal marchnad dai leol.
Bydd modd i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig brynu eiddo canolradd i’w osod yn defnyddio’r un gostyngiad â’r cynnyrch perchentyaeth cost isel.
Ffynhonnell: CACI PayCheck & Phrisiau a Dalwyd ar y Gofrestrfa Tir
| Ardal marchnad dai leol | Gostyngiad oddi ar werth y farchnad agored |
| LHMA1 Gorllewin |
20% |
| LHMA2 Creuddyn |
34% |
| LHMA3 Canolbarth |
35% |
| LHMA4 Dwyrain |
30% |
| LHMA5 Gwledig |
23% |
Cyfrifiadau gostyngiadau tai fforddiadwy 2026-2027
Mae'r tabl hwn yn dangos sut cafodd y gostyngiadau eu cyfrifo.
Mae canolrif prisiau tai yn cael ei gyfrifo drwy ddadansoddi’r holl eiddo sydd wedi ei werthu yng Nghonwy o fewn cyfnod o ddeuddeg mis. Mae canolrif incwm aelwydydd yn cynnwys yr aelwyd gyfan ac yn cael ei gyfrifo yn defnyddio data diweddaraf CACI PayCheck ar gyfer yr un cyfnod o ddeuddeg mis â’r data prisiau tai.
Mae nifer o ddarparwyr morgeisi bellach yn derbyn blaendal o 5% a hwn yw’r lleiafswm sy’n ofynnol er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yng nghynllun cofrestr tai fforddiadwy Conwy a chynlluniau cenedlaethol fel Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru.
Ffynhonnell: CACI PayCheck & Phrisiau a Dalwyd ar y Gofrestrfa Tir
| Ardal marchnad dai leol | Canolrif incwm aelwydydd | Incwm aelwyd x3.5 | Blaendal o 5% | Incwm x3.5, a 5% | Canolrif prisiau tai | % o werth y farchnad agored sy’n daladwy | Gostyngiad oddi ar werth y farchnad agored |
| LHMA1 Gorllewin |
£38,180 |
£133,630 |
£6,682 |
£140,312 |
£175,000 |
80% |
20% |
| LHMA2 Creuddyn |
£39,857 |
£139,500 |
£6,975 |
£146,474 |
£222,500 |
66% |
34% |
| LHMA3 Canolbarth |
£37,271 |
£130,449 |
£6,522 |
£136,971 |
£210,000 |
65% |
35% |
| LHMA4 Dwyrain |
£38,223 |
£133,781 |
£6,689 |
£140,470 |
£202,000 |
70% |
30% |
| LHMA5 Gwledig |
£39,328 |
£137,648 |
£6,882 |
£144,530 |
£187,500 |
77% |
23% |
Ardaloedd marchnad dai
Mae ardaloedd marchnad dai yn cynnwys y rhanbarthau etholiadol (wardiau) canlynol:
- LHMA1 Gorllewin: Bryn, Pandy, Penmaenmawr
- LHMA2 Creuddyn: Conwy, Craig y Don, Deganwy, Glyn y Marl, Gogarth Mostyn, Llansanffraid, Penrhyn, Tudno
- LHMA3 Canolbarth: Colwyn, Eirias, Glyn, Llandrillo yn Rhos, Llysfaen, Mochdre, Rhiw
- LHMA4 Dwyrain: Gele a Llanddulas, Kimnel Bay, Pensarn Pentre Mawr, Towyn
- LHMA5 Gwledig: Betws yn Rhos, Betws y Coed a Trefriw, Caerhun, Eglwys-bach a Llangernyw, Llanrwst a Llanddoged, Uwch Aled, Uwch Conwy
Map ardaloedd marchnad dai a wardiau
Mae’r map hwn yn dangos ffiniau ardaloedd marchnad dai a wardiau.
hma-mapFfynhonnell: Data agored yr Arolwg Ordnans a Chyfoeth Naturiol Cymru, 2023.
Yn cynnwys gwybodaeth sector cyhoeddus wedi’i drwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored f3.0.
Nesaf: Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol