Gwybodaeth am Blanhigfa Bryn Euryn - fersiwn hawdd ei darllen
Mae Gwasanaeth Anableddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gyhoeddi agoriad Planhigfa Bryn Euryn ar ei newydd wedd. Ar ôl cau ar gyfer ei ailddatblygu, rydym bellach ar agor i’r cyhoedd. Dewch i ymweld â’r ganolfan arddio a’r siop, neu am baned o de a thamaid blasus yn y caffi.
Mae’r Ganolfan Arddio, y Siop a’r Caffi yn fenter ffantastig sy’n cynnig gwasanaeth mentora cyflogaeth i bobl ag anghenion sydd am gael swydd â chyflog.
Rydym yn falch o arwain newid positif i bobl gydag anghenion sydd am ddechrau eu gyrfaoedd, wrth sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael profiad siopa o’r safon uchaf.
Byddwn yn arddangos y gorau o’n cynnyrch cartref a chynnyrch lleol, gan gynnwys eitemau gan ddetholiad o ddarparwyr a busnesau o’r ardal gyfagos. Mae’r caffi yn cael ei redeg gan ein hasiantaeth bartner, Hft.
Bryn Euryn LogoDewch i'n gweld ni:
Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn
Dinerth Road
Llandrillo-yn-Rhos
LL28 4YN
Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am tan 4pm
Edrychwn ymlaen at eich croesawu!Funded by UK GovernmentMae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.