start content

Ynglŷn â’r ymgynghoriad

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Cynllun Llwybr Teithio Llesol Pont Conwy o 2 Awst i 23 Awst 2023.

Roedd deunyddiau ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor, fel pecyn papur i’w bostio, ac mewn digwyddiad galw heibio cyhoeddus a gynhaliwyd yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Conwy ar 3 Awst 2023.

Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn datganiadau i’r wasg, ar wefan y Cyngor ac mewn posteri a llythyrau at fudd-ddeiliaid lleol.

Roedd deunyddiau’r ymgynghoriad yn egluro’r amcanion y byddai’r cynllun yn eu cyflawni, gan ddarparu mynediad teithio llesol i bawb rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno ar gyfer pobl sy’n cerdded, ar olwynion ac yn beicio.

Roedd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i gymunedau ystyried 4 dewis a darparu adborth.

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Ymatebodd cyfanswm o 161 o bobl i’r ymgynghoriad.

Roedd mwyafrif helaeth yr ymatebion yn dweud bod angen gwelliannau i'r llwybr teithio llesol ar yr A547 Pont Conwy.

Y dewis a ffefrir

  • Dywedodd 104 o bobl (65% o ymatebwyr) mai Dewis C oedd y dewis roeddent yn ei ffafrio
  • Roedd 40 o bobl (25%) yn ffafrio Dewis D2
  • Roedd 10 o bobl (6%) yn ffafrio Dewis D1
  • Roedd 5 o bobl (3%) yn ffafrio Dewis A3

Y dewis a ffefrir leiaf

  • Dywedodd 65 o bobl (40% o ymatebwyr) mai Dewis D1 roeddent yn ei ffafrio leiaf
  • Dywedodd 58 o bobl (36%) mai Dewis A3 roeddent yn ei ffafrio leiaf
  • Dywedodd 18 o bobl (11%) mai Dewis D2 roeddent yn ei ffafrio leiaf
  • Dywedodd 14 o bobl (8%) mai Dewis C3 roeddent yn ei ffafrio leiaf

Defnyddio’r llwybr teithio llesol

Dywedodd 118 o bobl (73% o’r ymatebwyr) y byddent yn defnyddio'r llwybr roeddentyn ei ffafroi o leiaf unwaith yr wythnos.

  • Dywedodd 56 o bobl y byddent yn ei ddefnyddio 1-2 diwrnod yr wythnos
  • Dywedodd 33 o bobl y byddent yn ei ddefnyddio 3-4 diwrnod yr wythnos
  • Dywedodd 29 o bobl y byddent yn ei ddefnyddio 5-7 diwrnod yr wythnos

Teithio ar hyn o bryd

Gofynnom i bobl ddweud wrthym ni sut maent fel arfer yn teithio rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno. Mae rhai pobl yn defnyddio mwy nac un math o gludiant:

  • Dywedodd 110 o bobl eu bod un ai’n cerdded neu’n beicio
  • Dywedodd 72 o bobl eu bod yn defnyddio car preifat
  • Mae 8 yn defnyddio math o gludiant cyhoeddus


Gofynnom i bobl ddweud wrthym ni beth sy’n eu hatal rhag cerdded, beicio neu fynd ar olwynion rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno ar hyn o bryd.

  • Ni wnaeth 65% o ymatebwyr ateb y cwestiwn hwn gan nad oedd yn berthnasol iddyn nhw
  • Dywedodd 13 o bobl fod y siwrnai yn cymryd gormod o amser ond dim ond 1 person oedd yn dweud bod y siwrnai yn rhy bell
  • Dywedodd 11 o bobl eu bod angen cario offer

Beth nesaf?

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu hychwanegu i broses werthuso Cam 2 WelTAG, fel rhan o'r meini prawf i asesu derbynioldeb pob dewis.

Mae’r gwerthusiad hefyd yn cynnwys meini prawf economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Bydd y dewis sy’n sgorio uchaf yn y broses werthuso yn cael ei ddatblygu fel y dewis a ffafrir yn y cam nesaf.

end content