Neidio i'r cynnwys
Fy Nghonwy
Fy nghymdogaeth
BSL
Cysylltwch
English
Preswylwyr
Busnes
Cyngor
Ymwelwyr
Newyddion
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Cartref
Preswylwyr
Parcio, ffyrdd a theithio
Teithio Llesol
Ymgynghoriadau Teithio Llesol
Pont Conwy
Problemau a Chyfleoedd
Problemau a Chyfleoedd
start content
Y materion allweddol ar gyfer y llwybr teithio llesol hwn yw:
Themâu a phroblemau:
Trefn Bresennol y Llwybr
Yn y man mwyaf cyfyng rhwng canllaw’r bont a’r rheiliau diogelwch, dim ond 1.4 metr o led yw’r droedffordd. Mae hynny’n creu gwrthdaro rhwng cerddwyr a beicwyr.
Ar y bont, mae’r ffordd tua 6.7 metr o led rhwng y cyrbiau, sydd yn llai na’r safon dylunio o 7.3 metr ar gyfer ffyrdd ag un lôn gerbydau, ac islaw’r safon sy’n ofynnol ar gyfer darparu lonydd beicio ar y ffordd.
Mae cyfyngiad uchder o 12 troedfedd ar yr A547 Ffordd Conwy, sy’n mynd dros y bont.
Mae’r bont yn ffordd answyddogol ar gyfer gwyro traffig pan mae twneli Conwy (A55) wedi cau.
Mae Pont Conwy’n ddolen a hyrwyddir ym Map Rhwydwaith Integredig y Cyngor ar gyfer llwybrau teithio llesol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd nid oes darpariaeth ddigonol i alluogi beicwyr sy’n mynd tua’r gorllewin ar y llwybr a rennir oddi ar y ffordd ar hyd y Cob i ymuno â’r traffig ar y ffordd er mwyn croesi’r bont. Ar ôl croesi’r bont, mae arwyddion yn cyfeirio beicwyr i wneud tro pedol wrth y gylchfan fach i fynd yn ôl ar Lwybr 5 yn y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar Lower Gate Street.
Ar hyn o bryd mae’r droedffordd yn rhy gul i fodloni’r egwyddorion dylunio ar gyfer llwybrau a rennir rhwng cerddwyr a beicwyr. Nid yw’n bosib creu llwybr oddi ar y ffordd ar sail lled presennol y droedffordd.
Defnydd Presennol
Mae rhai beicwyr yn defnyddio’r brif ffordd gerbydau ac yn gyfwerth â tua 1% o’r traffig sy’n llifo dros bont yr A547.
Dros gyfnod o bedwar diwrnod, cofnodwyd 4,178 o feicwyr a cherddwyr ar Lwybr Cenedlaethol 5 yn nhref Conwy ac ar hyd y Cob, ac roedd 13% o’r rheiny’n feicwyr.
Treftadaeth
Mae’r castell canoloesol yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Gellir gweld y castell o sawl cyfeiriad, ond mae golygfa fawreddog ohono dros yr aber. Mae’n rhaid gwarchod y Safle Treftadaeth y Byd a gallai unrhyw waith i addasu’r pontydd effeithio ar ddynodiad UNESCO.
Mae’r bont yn rhan o Ardal Gadwraeth a Lleoliad Hanfodol y Safle Treftadaeth y Byd. Bydd y safle treftadaeth yn cyfyngu ar unrhyw waith y gellir ei wneud i addasu strwythurau presennol neu adeiladu rhai newydd.
Gallai addasu arwyddion, goleuadau a chelfi stryd amharu ar y safle treftadaeth hefyd.
Yr Amgylchedd
Mae pont yr A547 yn mynd dros Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Aber Afon Conwy. Bydd yn rhaid ystyried effaith unrhyw newidiadau ar y SoDdGA.
Polisi
Mae fersiwn diweddaraf Strategaeth Trafnidiaeth Cymru’n pwysleisio mor bwysig yw newid hinsawdd ac mae’n ailwampio’r hierarchaeth trafnidiaeth gan roi blaenoriaeth i ddulliau mwy cynaliadwy. Mae’r cynllun hwn yn ffordd dda o gyflawni gofynion a chanlyniadau Strategaeth Trafnidiaeth Cymru.
Tudalen Nesaf
Yn yr adran hon
Pont Conwy: Ymgynghoriad Teithio Llesol
Pont Conwy - Adborth i Ymgynghoriad Teithio Llesol
Drag side panels here (optional)
end content
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.