Cyfeirnod: CCBC - 049274
Gorchymyn (Cydgrynhoi) Bwrdeistref Sirol Conwy (Atal A Chyfyngu Aros A Mannau Parcio Oddi Ar Y Stryd) 2006 Gorchymyn (Diwygiad Rhif 1) 2025 - Y Pared Llandudno
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud Gorchymyn dan Adrannau 1(1), 2(1) i (3) a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, i ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2006 i ymestyn y Parth Parcio wedi’i Reoli ar hyd y darn hwnnw o Y Pared Llandudno rhwng Ty’n y Ffrith Road a Ffordd Nant–y-Gamar pellter o oddeutu 600 metr fel y manylir isod.
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a'r cynlluniau, a fydd yn dod i rym ar 25 Awst 2025 ar wefan y Cyngor. Os ydych am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth ynddo ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddir gan Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad o’r Ddeddf honno neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, o ran y Gorchymyn, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn, cyn pen chwe wythnos o’r dyddiad hwn.
Atodlen 1 Ffyrdd a Strydoedd
- Ffyrdd a Strydoedd: Y Pared
- Eithriadau: Yn caniatau parcio yn y Parth Parcio a Reolir
- Nifer y trwyddedau a roddwyd: 1 i bob Rheolwr / Perchennog Gwesty ar y strydoedd a enwir sydd heb fynediad i lefydd Parcio preifat oddi ar y stryd
- Eithriadau: Tocynnau i bobl yn aros yn y Gwestai
- Nifer y trwyddedau a roddwyd: 4 i bob Gwesty (ddim i’w def-nyddio gan staff y Gwesty) ar y stryd a enwir
Atodlen 3 Strydoedd Llandudno sy’n Gymwys am Drwyddedau CPZ ac Aros yn Hirach
- Colofn A: Y Pared (rhwng Ty’n y Ffrith Road a’r Ffordd Nant–y-Gamar)
Atodlen 4 Parth Parcio wedi’i Reol
- Hyd y ffordd: Y Pared, Llandudno; (rhwng Ty’n y Ffrith Road a’r Ffordd Nant–y-Gamar pellter o oddeutu 600metr)
- Safle y gall cer-byd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio (lle mae bae wedi marcio) neu fel gyfarwyddyd gan swyddog gorfodi sifil.
- Math o Gerbyd:
- Ceir a faniau ysgafn a charafannau mod-ur (fel y diffinnir yn Erthygl 2):
- Oriau y codir tâl, dydd Llun i ddydd Sul (cyn-hwysol): 10am tan 4pm:
- Graddfa'r Prisiau: o 1 Mai - 30 Medi:
- Hyd at 4 awr £5.50
- Mwy na 4 awr £7.50
o 1 Hydref - 30 Ebrill:
- Hyd at 2 awr £2.40
- Hyd at 4 awr £3.80
- Mwy na 4 awr £5.40
- Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyngiad
- Ceir a faniau ysgafn a(fel y diffinnir yn Erthygl 2):
- Oriau y codir tâl, dydd Llun i ddydd Sul (cyn-hwysol): 4pm tan 10am:
- Carafannau modur(fel y diffinnir yn Erthygl 2):
- Cyfnod aros hiraf: Ni Chaniateir 11pm i 8am
Atodlen 6 Taliadau ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas i Bobl Anabl
- Hyd y ffordd: Y Pared Llandudno; (rhwng Ty’n y Ffrith Road a’r Ffordd Nant–y-Gamar pellter o oddeutu 600metr)
- Safle y gall cerbyd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio anabl
- Math o Gerbyd: Deiliaid Batho-dynnau Unigolion Anabl yn unig
- Oriau y codir tâl: Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol) 10 am tan 4 pm
- Graddfa'r Prisiau: Dim tâl
- Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyng-iad
Dyddiedig: 20 Awst 2025
MattGeorgiou
M Georgiou
Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu
Tudalen nesaf: Gorchymyn