start content

Cyfeirnod: CCBC - 049224

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd) Gorchymyn 1997 (Diwygiad) Gorchymyn 2025

Y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud Gorchymyn dan Adrannau 32 a 35 Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, ynghyd â’i holl rymoedd galluogi, i ddiwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Lleoedd Parcio oddi ar y Stryd) 1997,  a’i effaith fydd cyflwyno prisiau newydd, prisiau tymhorol, ardaloedd parcio am ddim gyda chyfyngiad aros ac ychwanegu at y dosbarth cerbydau a ganiateir mewn meysydd parcio fel y dangosir yn yr Atodlen isod.  

Gellir archwilio copi o'r Rhybudd yma a’r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â mapiau a datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig yn Swyddfa’r Cyngor Coed Pella Bae Colwyn,  Llyfrgelloedd Conwy, Llandudno a Llanrwst ac ar wefan y Cyngor. 

Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â'r rhesymau drostynt, ar bapur at yr Adran Draffig, yr Amgylchedd Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1 Bae Colwyn LL29 OGG neu at traffig@conwy.gov.uk erbyn 11 Ebrill 2025.

 

Dyddiedig: 19 Mawrth 2025

CeriWilliamsSignature

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol 


Tudalen Nesaf:  Gorchymyn

end content