Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Creu lleoedd a chynlluniau lleoedd


Summary (optional)
start content

Cyfle i gymuned ddod ynghyd a helpu i chwarae rhan mewn datblygu’r lle sy’n bwysig iddynt yw cynllun lleoedd.

Pwrpas cynllun lleoedd yw:

  • Casglu tystiolaeth am eich ardal i ddeall pa faterion y mae'r gymuned yn eu hwynebu
  • Siarad â’r gymuned ehangach a budd-ddeiliaid ynglŷn â sut y bydd yr ardal yn datblygu, a beth sydd angen ei wneud ar gyfer lles y gymuned yn y dyfodol
  • Cytuno ar sut yr ydych am i wahanol agweddau o’ch lle fod yn y dyfodol
  • Cytuno ar gynllun i weithio tuag at y dyfodol hwn, gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, polisïau ar gyfer gwneud penderfyniadau am gynllunio a chynllun gweithredu i nodi sut y bydd materion a nodwyd yn cael eu taclo
  • Sicrhau fod y gymuned a budd-ddeiliaid allweddol yn cytuno i’r cynllun terfynol a’i fod yn cael ei fabwysiadu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i’w ddefnyddio fel Canllaw Cynllunio Atodol e.e. i'w ddefnyddio i wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio

Rydym wedi cynllunio pecyn gwaith i’ch helpu i roi eich Cynllun Lleoedd ynghyd ac mae ar gael yma: Datblygu Cymunedau Conwy (dogfen PDF)

Os byddai ddiddordeb gennych mewn mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gychwyn cynllun lleoedd yna e-bostiwch cynlluniaulle@conwy.gov.uk.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?