Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Lleoliadau ac oriau agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref

Lleoliadau ac oriau agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref


Summary (optional)
Dewch o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf a gwirio’r oriau agor
start content

Bydd yn rhaid trefnu apwyntiad i ymweld â’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Gallwch drefnu apwyntiad yma.

Mae dwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yng Nghonwy.

Safle Mochdre


Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Mochdre
Ffordd Bron-y-Nant
Mochdre
LL28 4YL


Safle Abergele

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Gofer
Rhuddlan Road
St George
Abergele
LL22 9SE


Oriau agor

Cyfnod Haf 
(1 Ebrill i 31 Hydref)
Gaeaf
(1 Tachwedd i 31 Mawrth)
Dydd Llun – Dydd Sadwrn 09:00-17:00 09:00-16:00
Dydd Sul 09:00-16:00 09:00-16:00

 

Mae ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn fwy tebygol o fod ar gau oherwydd tywydd garw yn ystod oriau agor y gaeaf. Ein nod yw cadw’r safleoedd hyn ar agor a’u cau dim ond i gadw preswylwyr a staff yn ddiogel.

Sylwer: Efallai na fydd yn bosibl rhoi gwybod i rai sydd ag apwyntiadau bod safleoedd yn cau yn ystod penwythnosau neu os bydd newid sydyn yn y tywydd. Eich cyfrifoldeb chi yw monitro’r tywydd ac archebu lle ar-lein yn unol â’r canllawiau isod.

Mae’r canllawiau hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer safleoedd Abergele a’r Rhyl ble mae gwyntoedd cryfion yn broblem benodol.

Rhybudd Tywydd Melyn

Mae’n bosibl y bydd rhai o’n Parciau Ailgylchu neu bob un ohonynt yn yr ardal a effeithir ar gau tra bydd y rhybudd tywydd ar waith. 

Rydym yn argymell archebu ar gyfer safle y tu allan i’r ardal a effeithir neu ar gyfer dyddiad ac amser pan na fydd y rhybudd tywydd ar waith.

Rhybudd Tywydd Oren

Mae’n debygol y bydd rhai o’n Parciau Ailgylchu neu bob un ohonynt ar gau tra bydd y rhybudd tywydd ar waith.

Dylech archebu ar gyfer dyddiad ac amser pan na fydd y rhybudd tywydd ar waith.

Rhybudd Tywydd Coch

Bydd pob un o’n Parciau Ailgylchu ar gau tra bydd y rhybudd tywydd ar waith.

Rydym yn eich cynghori’n daer i beidio ag archebu lle pan fydd y rhybudd tywydd ar waith.

Mae’r Gwasanaeth Rhybuddio Tywydd Garw Cenedlaethol yn un o nodweddion y Swyddfa Dywydd. I gael rhagor o wybodaeth ar rybuddion tywydd, ewch i https://weather.metoffice.gov.uk/guides/warnings

 

Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Mae’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar gau ar:

  • Diwrnod Nadolig (25 Rhagfyr)
  • Gŵyl San Steffan (26 Rhagfyr)
  • Dydd Calan (1 Ionawr)

Oriau agor estynedig: Mae’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn agored am oriau estynedig rhwng 9am a 5pm o 27 Rhagfyr i 31 Rhagfyr.

Bydd oriau agor arferol (gaeaf) yn ailddechrau ar 2 Ionawr.

Penwythnos Gŵyl Banc

Heblaw’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd nid oes unrhyw newid i oriau agor Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ar gyfer gwyliau banc eraill na gwyliau cyhoeddus fel Pasg, a gwyliau banc Mis Awst.

end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?