Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Oedolion Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed

Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed


Summary (optional)
start content

Cafodd y cysyniad o ddinasoedd neu gymunedau sy'n gyfeillgar i oed ei ddatblygu gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn rhan o fenter fyd-eang i adnabod y newidiadau sydd eu hangen er mwyn i ddinasoedd a chymunedau addasu i ac elwa o boblogaethau sy’n heneiddio.

Mae Conwy wedi ymrwymo i fod yn gymuned sy’n gyfeillgar i oed, ac rydym yn gweithio tuag at ennill y statws hwn.

Rhowch eich barn: Helpwch i Lunio Dyfodol Heneiddio'n Iach yn Sir Conwy

Pam bod eich cyfraniad yn bwysig:

Dim ond os ydym yn ymgorffori llais pawb y gellir creu Conwy sy’n Gyfeillgar i Oed. Bydd yr atebion a roddwch yn cael eu defnyddio gan

Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) i ffurfio ein hasesiad sylfaenol a byddant yn cael eu cyflwyno fel tystiolaeth i gefnogi cais Conwy i ddod yn Gymuned Gyfeillgar i Oed.

Llenwch yr arolwg ar-lein yma: https://online1.snapsurveys.com/kaqja

Llenwch gopi papur a'i ddychwelyd i unrhyw lyfrgell yn Sir Conwy neu ei bostio i:

Gwasanaeth Llyfrgell Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bwlch Post 1
Conwy
LL30 9GN

Beth yw cymunedau sy'n gyfeillgar i oed?

Mae cymuned sy’n gyfeillgar i oed yn creu amgylchedd sydd yn galluogi pobl o bob oed i heneiddio’n dda drwy ddarparu cyfleoedd i fod yn iach, heini a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.  Maen nhw’n arbennig o bwysig i alluogi pobl hŷn i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu ac i:

  • fynd allan o gwmpas
  • gwneud y pethau maen nhw eisiau eu gwneud
  • derbyn y wybodaeth ddiweddaraf
  • byw bywydau iach ac egnïol
  • cael llais

Mae’r 8 Maes Cysylltiedig o Fywyd Trefol yn darlunio’r meysydd ffocws y bydd y cais yn canolbwyntio arnynt, gan roi dangosyddion clir i ni o’n cynnydd a’n potensial.

8 Maes Cydgysylltiedig Bywyd Trefol

  • Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth
  • Parch a chynhwysiant cymdeithasol
  • Adeliadau a mannau yn yr awyr agored
  • Cyfranogiad cymdeithasol
  • Tai
  • Cludiant
  • Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd
  • Cyfathrebu a gwybodaeth


Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ymrwymo i gefnogi creu cymunedau sy'n gyfeillgar i oed ar draws Cymru.  Drwy weithredu ei strategaeth Cymru o Blaid Pobl Hŷn, mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol yng Nghymru i weithio gyda’r Comisiynydd i fod yn gyfeillgar i oed.  Mae’r broses o ddod yn gyfeillgar i oed yn cynnwys unigolion, grwpiau lleol, gwasanaethau a busnesau sy’n dod at ei gilydd i wneud newid cadarnhaol i alluogi pobl i heneiddio’n dda.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i ni weithio tuag at ennill statws cyfeillgar i oed.

Dolenni defnyddiol a darllen pellach

 

Age Friendly Communities in Practice Logo

end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?