Telecare Process
Beth yw Teleofal?
Mae Teleofal Conwy yn cefnogi ystod o unigolion drwy ddarparu technoleg o fewn y cartref. Gall hyn ddatgelu cwympiadau, gwella diogelwch yn eich cartref, neu ganu larwm yn y gwasanaeth monitro 24/7 dwyieithog.
Mae mwy a mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o dechnoleg i gynorthwyo pobl i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn y gymuned. Bydd Teleofal Conwy yn gweithio gyda chi i geisio canfod ffyrdd gwahanol i ddiwallu eich anghenion drwy ddefnyddio offer a thechnoleg newydd Teleofal.
Beth sy'n cael ei gynnwys?
Mae’r pecyn Teleofal sylfaenol yn cynnwys rhentu, cynnal a chadw a monitro’r offer canlynol canlynol:
- Blwch Llinell Fywyd
- Larwm Gwddf
- Synwyryddion mwg
- Sêff Allweddi
Cost
- Ffi unwaith yn unig o £35 am osod + £1.08 y diwrnod
Mae offer ychwanegol / arbenigol ar gael yn dilyn argymhelliad gweithiwr iechyd proffesiynol.
Sut ydw i’n atgyfeiro?
Cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gofrestru ar gyfer Teleofal , neu lawrlwythwch gopi papur gofrertru Teleofal i’w lenwi a’i ddychwelyd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Gwasanaeth Teleofal Conwy
Storfa Benthyg Cyfarpar Cymunedol
Ysbyty Bryn y Neuadd
Aber Road
Llanfairfechan
LL33 0HH
E-bost: teleofal@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 577560
Ffacs: 01492 577594
Trosglwyddio i Ffonau Digidol
Oeddech chi’n gwybod y bydd pob hen linell dir wedi’u disodli gan linellau Digidol erbyn diwedd mis Ionawr 2027 gan eich darparwr llinell dir?
Gallai newid o’ch hen ffôn llinell dir i linell ddigidol effeithio ar eich Teleofal.
Ffoniwch staff Gweinyddol Teleofal ar 01492-577560 i roi gwybod i ni pan fyddwch chi’n cael gwybod bod eich llinell dir yn trosglwyddo i linell Ddigidol.
Gallant drefnu bod eich offer yn cael ei uwchraddio, os oes angen.
Tudalennau defnyddiol eraill
Dewis Cymru
Galw Gofal
Paratoi Taliad Debyd Uniongyrchol
Un Pwynt Mynediad Conwy
Tîm Gofalwyr Conwy
Hawliau Lles