start content

Rydym yn gweinyddu Grant Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (GPDGGCC) er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad i weithlu Gofal Cymdeithasol Conwy gan gynnwys ein darparwyr a’n partneriaid yn Sir Conwy.

Mae cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad yn agored i’r sector Gofal Cymdeithasol cyfan, er enghraifft gwirfoddolwyr, derbynwyr tâl uniongyrchol, unigolion gyda chyfrifoldebau gofalu (oedolion sy’n ofalwyr a gofalwyr ifanc) a gweithwyr gofal cymdeithasol.

Mae cynlluniau gweithlu rhanbarthol a lleol ar waith sy’n nodi ac yn sicrhau gweithrediad mesurau i sicrhau gweithlu digon mawr, medrus, diogel ac sydd â ffocws i hybu lles pobl ag anghenion gofal a chefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • cefnogi recriwtio a chadw
  • gallu a chymwysterau
  • llwybrau gyrfa
  • datblygu sgiliau unigolion i gydymffurfio â chodau ymarfer proffesiynol o fewn y sector

Gweler ein rhaglen hyfforddiant ar gyfer 2026 a 2027 (dogfen PDF)

Gweler ein Cynllun Dysgu a Datblygu Diogelu Conwy 2026-2027 (dogfen PDF)

end content