Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cau lôn ar yr A470 ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol

Cau lôn ar yr A470 ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol


Summary (optional)
start content

Cau lôn ar yr A470 ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol

Royal Welsh Way closure Map

Ffordd y Cymry Brenhinol (A470)

Bydd adran o Ffordd y Cymry Brenhinol (A470) ar gau ddydd Llun, 26 Ionawr ar gyfer gwaith cynnal a chadw pwysig ar y bont o dan y ffordd.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cau’r lôn ar y chwith i gyfeiriad y de ar Ffordd y Cymry Brenhinol o oddeutu 75m i’r gogledd o gylchfan Black Cat ddydd Llun er mwyn cwblhau gwaith cynnal a chadw pwysig gan fod y cynhalydd o dan y bont wedi’i ddifrodi.  Bydd Ffordd y Cymry Brenhinol yn aros ar agor i’r ddau gyfeiriad yn ystod y gwaith.

Mae’r cynhalydd sydd wedi’i ddifrodi’n 1 o 8 ar yr adran o’r bont ac o 32 ar y bont gyfan.  Mae’r cynhalydd sydd wedi’i effeithio wedi’i leoli o dan yr adran o’r ffordd a gaiff ei chau.

Bydd y ffordd ar gau am 8 wythnos, a bydd gwaith i gefnogi’r cynhalydd dros dro’n cael ei gwblhau ddiwedd mis Mawrth 2026.  Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi gwaith cynnal a chadw pellach unwaith y bydd y cynlluniau wedi’u cwblhau.

Wedi ei bostio ar 23/01/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?