Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gwyliwch rhag sgamiau Treth y Cyngor
start content

Gwyliwch rhag sgamiau Treth y Cyngor

Rhybudd

Gwyliwch rhag sgamiau Treth y Cyngor

Mae tîm Treth y Cyngor Conwy wedi derbyn adroddiadau o sgâm e-bost sy’n targedu preswylwyr ac yn atgoffa pawb i fod yn wyliadwrus.

Os ydych yn cael galwad ffôn, neges destun neu e-bost yn honni i fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn dweud bod gennych gredyd ar eich cyfrif Treth y Cyngor:

•           Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni, agor unrhyw atodiadau neu ffonio unrhyw rif a ddarperir yn y neges.

•           Peidiwch ag ymateb neu ddarparu unrhyw fanylion personol, ariannol neu fewngofnodi.

•           Adroddwch y neges fel sbam a’i ddileu.

Mae hi hefyd yn syniad da atgoffa perthnasau, ffrindiau a chymdogion hŷn i fod yn ofalus gyda’u manylion personol a’u manylion banc.

Cofiwch y gall preswylwyr Conwy hefyd gael cyngor a chymorth am ddim ynghylch Treth y Cyngor a Budd-daliadau gan y Cyngor trwy ffonio (01492) 576607 neu anfon e-bost at trethycyngor@conwy.gov.uk neu ar-lein ar www.conwy.gov.uk/trethycyngor

 

 

Os ydych yn credu eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgam, rhowch wybod i safonau.masnachu@conwy.gov.uk

Wedi ei bostio ar 06/11/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content