Papur Pleidleisio Sain Newydd
Ballot Box
Blwch Pleidleisio
Mae papur pleidleisio sain newydd wedi cael ei gyflwyno ar gyfer etholiad y Senedd fis nesaf. Bydd yn helpu i gefnogi pleidleiswyr dall neu rhannol ddall trwy gynnig fersiwn sain o’r holl bleidiau a’u hymgeiswyr ar y papur pleidleisio.
Mae’r disgrifiad sain ar gyfer etholaeth Bangor Conwy Môn ar gael ar dudalen Etholiad Senedd Cymru ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i helpu'r rhai sydd â phleidleisiau post.
Neu cliciwch ar Papur Pleidleisio Sain - Bangor Conwy Môn - Etholiad i Senedd Cymru 2026
Bydd y papur pleidleisio sain newydd hefyd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio yn etholaeth Bangor Conwy Môn ar gyfer y bleidlais ar ddydd Iau 7 Mai.
Gall y pleidleiswyr sganio’r cod QR, gyda chymorth staff yr orsaf, a fydd yn tywys y pleidleisiwr i ddisgrifiad sain pwrpasol o’r holl bleidiau a’r ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad yn etholaeth Bangor Conwy Môn.
Defnyddir y recordiad sain ar y cyd â’r droshaen papur pleidleisio, a bydd y pleidleisiwr yn clywed pa blaid sydd yn cyd-fynd â phob bocs sydd wedi’u rhifo gan gael eu llywio i’r bocs cywir gan ddefnyddio’r rhifau boglynnog a braille sydd wrth eu hochr.
Os nad all rhywun ddefnyddio’r dewis digidol, bydd staff yr orsaf bleidleisio ar gael i’w cynorthwyo a darllen y papur pleidleisio allan i’r pleidleisiwr.
Mae’r disgrifiad sain ar gyfer etholaeth Bangor Conwy Môn ar gael i’w wrando cyn diwrnod y bleidlais ar dudalen Etholiad Senedd Cymru ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’r disgrifiad sain ar gyfer etholaeth Clwyd ar gael yn Recordiad Sain o'r Papur Pleidleisio ar Gyfer Etholaeth Clwyd
Wedi ei bostio ar 24/04/2026