Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Etholiadau Senedd Cymru


Summary (optional)
start content

Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ddydd Iau 7 Mai, 2026. Yn yr etholiad nesaf, bydd newidiadau i nifer aelodau'r Senedd, yr etholaethau, a sut mae aelodau'r Senedd yn cael eu hethol:

  • 96 o Aelodau: O'r etholiad ym mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn hytrach na 60.
  • System bleidleisio newydd: Bydd gan bawb sy’n 16+ un bleidlais nawr, gan ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
  • Etholaethau newydd: Bydd gan Gymru 16 o etholaethau. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
  • Rheolau newydd: Rhaid i unrhyw un sy'n sefyll ar gyfer etholiad fyw yng Nghymru.

Gallwch ddysgu mwy ar wefan y Senedd neu ewch i bwrwpleidlais.cymru. I ddarganfod ble mae eich gorsaf bleidleisio, ewch i - Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio | Ble Ydw i'n Pleidleisio?.

Yr etholaethau sy'n cwmpasu Bwrdeistref Sirol Conwy yw Bangor Conwy Môn a ClwydGallwch ddod o hyd i'ch etholaeth newydd drwy nodi'ch cod post yma.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd yn gweinyddu etholiad etholaeth Bangor Conwy Môn, a Chyngor Sir y Fflint sydd yn gweinyddu etholiad etholaeth Clwyd.

Hysbysiadau


Dyddiadau pwysig

  • Dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio: 20 Ebrill 2026
  • Dyddiad cau gwneud cais am bleidlais bost: 5pm ar 21 Ebrill 2026
  • Dyddiad cau gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy: 5pm ar 28 Ebrill 2026
  • Dyddiad y bleidlais: 7 Mai 2026, rhwng 7am a 10pm
  • Cyfrif y pleidleisiau: 8 Mai 2026

Pwy sy'n cael pleidleisio

I bleidleisio yn etholiad y Senedd mae'n rhaid i chi fod:

  • wedi cofrestru i bleidleisio
  • yn 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y bleidlais
  • yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys o’r Gymanwlad, dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd, neu’n ddinesydd tramor cymwys
  • yn preswylio yng Nghymru, a
  • heb unrhyw rwystr cyfreithiol i bleidleisio

Gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid

Pleidleisio yn bersonol mewn Gorsaf Bleidleisio

Mae gorsafoedd pleidleisio yn agored o 7am tan 10pm ar ddiwrnod y bleidlais, 7 Mai 2026.

Cyn i chi fynd i bleidleisio, gwiriwch lle mae eich gorsaf bleidleisio. Efallai nad yw’r un agosaf at eich cartref, ac efallai ei bod wedi newid ers y tro diwethaf i chi bleidleisio.

Dim ond yn yr orsaf bleidleisio a bennwyd ar eich cyfer y gellwch bleidleisio yn bersonol.

Bydd cyfeiriad eich gorsaf bleidleisio ar eich cerdyn pleidleisio. Byddwn yn anfon y cerdyn drwy’r post ychydig wythnosau cyn diwrnod y bleidlais.

Er gwybodaeth yn unig mae’r cerdyn pleidleisio, felly peidiwch â phoeni os ydych yn ei golli neu’n ei anghofio. Gellwch bleidleisio hebddo, os yw eich enw ar y gofrestr etholiadol.

Ni fydd yn rhaid i chi ddangos prawf adnabod â llun er mwyn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn yr etholiad ar 7 Mai 2026.

Dod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio: Dod o hyd i dy orsaf bleidleisio | Lle Ydw i’n Pleidleisio?

Pleidleisio Hygyrch

Ein nod yw gwneud pob gorsaf bleidleisio yn hygyrch i bleidleiswyr ag anabledd, er enghraifft:

  • rydym yn darparu rampiau lle bo’r angen
  • mae’r Swyddog Llywyddu ar gael i’ch helpu
  • bwth pleidleisio wedi ei addasu ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn
  • gall ffrind neu berthynas fod gyda chi os oes angen cymorth arnoch
  • mae yna gadeiriau ar gyfer pobl na allant sefyll am gyfnodau hirion.


Yn ogystal, gall staff yr orsaf bleidleisio ddarparu cymhorthion i helpu pleidleiswyr sy’n ddall neu’n rannol ddall:


Os oes angen cefnogaeth arnoch ar ddiwrnod yr etholiad, gofynnwch i staff yr orsaf bleidleisio, a fydd yn fwy na pharod i helpu.

end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?