Ymgynghoriad Casgliadau Gwastraff Gardd

Crynodeb Esboniadol

Rydym yn gofyn i breswylwyr roi eu barn ynglŷn â chodi tâl am gasglu gwastraff o’r ardd.

Dim ond 27% o gyllideb Conwy sy’n dod o dreth y cyngor. Mae 54% yn dod gan Lywodraeth Cymru ac mae swm bychan yn dod o ardrethi busnes a ffioedd. Nid yw’r cyllid yr ydym wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 yn ddigonol i ddiwallu’r pwysau sy’n wynebu ein hysgolion a’n gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu bod diffyg o £15.2m yn y gyllideb a bydd angen i ni wneud arbedion.

Mae gan Awdurdodau Lleol hawl i godi tâl am gasglu gwastraff o erddi preswylwyr ac mae llawer o gynghorau eisoes yn gwneud hynny, gan gynnwys Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Mae’r gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff o’r ardd yn costio £620,000 y flwyddyn i’r Cyngor ar hyn o bryd a byddem yn disgwyl i’r ffigwr hwn godi y tro nesaf y bydd y gwasanaeth yn mynd allan i dendr. Ni allwn fforddio’r gwasanaeth hwn bellach ac rydym yn ystyried naill ai terfynu’r gwasanaeth neu godi tâl ar breswylwyr i dalu’r costau yn rhannol neu’n gyfan gwbl.

Bydd modd i breswylwyr fynd â gwastraff o’r ardd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref am ddim. Mae cynwysyddion compostio ar gael am brisiau gostyngedig, edrychwch ar ein gwefan: www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Recycling-and-Waste/Home-Composting.aspx

 
  Ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff o’r ardd? Dewiswch un yn unig.
  Pa mor aml ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth? Dewiswch un yn unig.
  Pryd ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth? Dewiswch un yn unig.
  Pa sgôr fyddech yn ei rhoi i’r gwasanaeth presennol? 1 = gwael iawn, 10 = ardderchog.  Dewiswch un yn unig.
1   2   3   4   5   6   7   8   9   10  
                     
 
  Mae’r Cyngor yn bwriadu gwneud newidiadau i’r gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff o’r ardd, er mwyn arbed arian. Pa un o'r dewisiadau isod fyddech chi yn ei ffafrio? Dewiswch un yn unig.

* Nid ydym wedi cynnwys dewis i gadw’r gwasanaeth fel y mae. Nid yw hyn yn fforddiadwy oherwydd yr holl doriadau sydd yn rhaid i ni eu gwneud i’r gyllideb.

Rydym yn sylweddoli bod ar y rhan fwyaf o bobl eisiau cadw’r gwasanaeth yn un rhad ac am ddim.

  Faint fyddech chi’n ei dalu am wasanaeth bob pythefnos, tebyg i’r gwasanaeth presennol? Ticiwch bob un sy’n berthnasol.
  Pe bai modd i ni gynnig gostyngiad, pa un o’r rhain fyddai yn eich annog i danysgrifio ar gyfer casgliad ailgylchu gwastraff o’r ardd? Ticiwch bob un sy’n berthnasol.
 

Mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU yn cael eu tanategu gan fframwaith cyfreithiol.  Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl awdurdodau cyhoeddus gyflawni’r gofynion a osodwyd gan y Ddeddf sy’n cynnwys casglu gwybodaeth monitro cydraddoldeb er mwyn monitro effeithiolrwydd a thegwch ein polisïau a’n hymarferion.   Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau yn cael eu darparu mewn modd sy’n deg i bawb ac nad yw'n rhagfarnu, byddem yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad trwy ddarparu'r wybodaeth a geisiwyd isod, ar sail cwbl wirfoddol.  

Defnyddir y wybodaeth at ddibenion monitro ystadegol yn unig, i gynorthwyo i greu amgylchedd cwbl gynhwysol.   Cedwir data’n gyfrinachol ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i geisio adnabod unrhyw unigolyn.   Lle y gallai defnyddio data arwain at adnabod unigolion oherwydd niferoedd isel o ymatebion, byddwn yn cymryd camau i agregu'r data i atal unigolion rhag cael eu hadnabod.   Bydd y wybodaeth hon yn cael ei dinistrio’n ddiogel ar ôl i ni ddadansoddi'r data a fydd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r maes hwn o waith yn unig.   Os ydych chi’n anghyfforddus yn llenwi’r holl flychau, mae croeso i chi lenwi’r rhai yr ydych yn gyfforddus yn eu llenwi’n unig, gan y byddai’r data hwn yn ddefnyddiol i ni beth bynnag.

Oed

  Beth yw eich oed?  Dewiswch un yn unig.  

Rhyw

  Beth yw eich rhyw? Dewiswch un yn unig.

Anabledd

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio person anabl fel person sydd â nam corfforol neu feddyliol, sy'n cael effaith sylweddol ac andwyol tymor hir ar allu'r person i wneud gweithgareddau arferol o ddydd-i-ddydd (h.y. mae wedi para neu y disgwylir iddo bara o leiaf 12 mis).  

  Ydych chi'n ystyried bod gennych anabledd yn ôl telerau Deddf Cydraddoldeb 2010? Dewiswch un yn unig.

Cenedl

  Beth yw eich hunaniaeth genedlaethol? Dewiswch un yn unig.
 

Ethnigrwydd

  Beth yw eich grŵp ethnig? Dewiswch un yn unig.
 

Newid Rhyw

  Ers eich genedigaeth a yw eich hunaniaeth rhywedd wedi newid? Dewiswch un yn unig.

Tueddfryd Rhywiol

  Beth yw eich tueddfryd rhywiol?  Dewiswch un yn unig.  
 

Crefydd neu Gred

  Beth yw eich crefydd?  Dewiswch un yn unig.  
 

Beichiogrwydd a Mamolaeth

  Ydych chi’n feichiog rŵan neu wedi bod yn feichiog neu wedi cymryd seibiant
mamolaeth yn y flwyddyn ddiwethaf?
Dewiswch un yn unig.  

Cyfrifoldebau Gofalwr  

  Ydych chi’n darparu gofal dyddiol di-dâl i rywun na fyddai’n ymdopi heb eich help?  Dewiswch un yn unig.  

Dewis Iaith

  Beth yw eich dewis iaith?  Dewiswch un yn unig.  
 
 
   
Clirio atebion o'r dudalen yma Snap Survey Software