Rydym yn ymwybodol y gallai gwaith ffordd amharu ar fusnesau lleol. Fodd bynnag, nid oes gan y Cyngor yr awdurdod i addasu Gwerthoedd Ardrethol sy’n cael eu defnyddio i gyfrifo Ardrethi Busnes.
Mae’r holl Werthoedd Ardrethol yn cael eu gosod gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mewn rhai achosion, efallai y bydd busnesau a effeithir gan waith ffordd yn gallu gwneud cais am adolygiad os ydynt yn credu bod y gwaith wedi cael effaith sylweddol ar eu heiddo a cheisio gostyngiad mewn Gwerth Ardrethol ar gyfer hyd y gwaith.
Gellir adolygu Gwerth Ardrethol os oes newid sylweddol wedi bod mewn amgylchiadau, megis newidiadau sylweddol i’r ardal leol neu fynediad at eiddo.
Gallai enghreifftiau gynnwys:
- Mynediad cyfyngedig i’ch eiddo
- Amhariad hir i weithgareddau busnes arferol
- Newidiadau sylweddol i’r ardal gyfagos gan effeithio ar fasnach
Caiff pob achos ei ystyried gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ôl ei rinweddau ei hun.
I wneud cais, bydd angen i chi gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio’n uniongyrchol. Ni all y Cyngor gyflwyno cais ar eich rhan.
I wneud cais am adolygiad, dylech ddefnyddio gwasanaeth Gwirio, Herio, Apelio Asiantaeth y Swyddfa Brisio:
Gwybodaeth bwysig:
- Mae’n rhaid i chi barhau i dalu eich ardrethi busnes tra bydd eich achos yn cael ei ystyried
- Mae unrhyw ostyngiad a gytunir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio fel arfer ar gael am gyfnod cyfyngedig ac efallai y bydd modd ei ôl-ddyddio
- Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd unrhyw drethi a dalwyd yn ormod yn cael eu had-dalu neu eu talu i’ch cyfrif
Efallai yr hoffech geisio cyngor annibynnol gan syrfëwr ardrethu neu ymgynghorydd busnes cyn gwneud cais.