Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Trwyddedu Tacsis Profion Cerbyd Hacni a Hurio Preifat

Profion Cerbyd Hacni a Hurio Preifat


Summary (optional)
start content

Fel rhan o’r broses ymgeisio rhaid i bob gyrrwr ddod i sesiwn wybodaeth a phasio naill ai y prawf Cerbyd Hacni neu’r prawf Hurio Preifat. Mae hyn yn digwydd bob 4 wythnos ac yn cynnwys adran wybodaeth sy’n para tua 30 munud a’r prawf ble caniateir 45 munud ar gyfer ymgeiswyr Hurio Preifat ac 1 awr ar gyfer ymgeiswyr Cerbyd Hacni.

Nid oes rhaid i chi fod wedi gwneud cais i ddod yn yrrwr neu’n weithredwr cyn cymryd prawf.

Rhaid i chi ddod â phrawf adnabod i’r sesiwn wybodaeth,  bydd peidio â gwneud hyn yn golygu na fyddwch yn cael mynychu ac ni fydd ad-daliad ar gael.

 
Rhaid cadw lle 5 diwrnod cyn dyddiad y sesiwn. 

Cost 

Costs
Prawf ac ail-sefyll Prawf Gwybodaeth Cerbyd Hacni £69.00
Prawf ac ail-sefyll Prawf Gyrrwr Hurio Preifat £69.00

 

Dyddiadau

Sesiwn yn cychwyn am 10am gyda phrofion (ac ail-sefyll) yn cychwyn am 10:30. 

Dyddiadau
Dydd Mercher, 6th Ionawr 2027
Dydd Mercher, 10th Chwefror 2027
Dydd Mawrth, 9th Mawrth 2027
Dydd Mercher, 14th Ebrill 2027
Dydd Mercher, 19th Mai 2027
Dydd Mercher, 23rd Mehefin 2027
Dydd Mercher, 28th Gorffennaf 2027
Dydd Mercher, 1st Medi 2027
Dydd Mercher, 6th Hydref 2027
Dydd Mercher, 10th Tachwedd 2027
Dydd Mercher, 15th Rhagfyr 2027
Dydd Mercher, 19th Ionawr 2028
Dydd Mercher, 23rd Chwefror 2028
Dydd Mercher, 29th Mawrth 2028

 

Paratoi

Ar ôl i chi wneud cais i gymryd eich prawf, byddwch yn cael e-bost yn cadarnhau dyddiad eich sesiwn ynghyd â fideos i’w gwylio a gwybodaeth bwysig i’w darllen. Mae’n hanfodol eich bod yn gwneud hyn cyn mynychu. 

Cyn dod i’r sesiwn, dylai ymgeiswyr ddarllen a deall y wybodaeth isod: 


Dylai ymgeiswyr hefyd gymryd amser i edrych ar bapur prawf enghreifftiol

Dolen at bapur prawf enghreifftiol

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod canlyniad y prawf ar e-bost o fewn 24 awr. 

Cysylltwch â ni

 

end content