Rydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol yng nghanol trefi blaenoriaeth Bae Colwyn, Abergele a Phensarn, a Llandudno.
Gellir defnyddio’r grant i wella blaen adeiladau, rhoi defnydd busnes buddiol i arwynebedd llawr masnachol gwag, neu roi ail-bwrpas i eiddo lle bo hynny'n briodol - er enghraifft rhoddir ystyriaeth i swyddfeydd, manwerthu a bwyd a diod.
Mae’r gronfa ar gael i berchnogion rhydd-ddaliadol yr eiddo, neu feddianwyr sydd â phrydles gyda 7 mlynedd neu fwy ar ôl ar ddyddiad y cais, ac sydd wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.
Disgwylir i bob prosiect a gefnogir gan y cynllun gyfrannu at rai o’r allbynnau canlynol yn Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru:
- Nifer y swyddi yn y lleoliad (a alluogwyd trwy’r buddsoddiad adfywio)
- Mentrau / busnesau yn y lleoliad
- Nifer y metrau sgwâr a grëwyd neu a ailwampiwyd fel safle amhreswyl
- Nifer y safleoedd amhreswyl a grëwyd neu a ailwampiwyd
- Nifer yr unedau amhreswyl sydd yn cael eu defnyddio eto
- Nifer y BBaChau yng Nghymru sy’n sicrhau contractau’n llwyddiannus
- Gwerth y contractau a ddyfernir i BBaChau yng Nghymru
Mae Canllawiau’r Grant Datblygu Eiddo Masnachol ar gael yma i’w lawrlwytho. Fodd bynnag, i gael rhagor o wybodaeth am y Grant Datblygu Eiddo Masnachol, neu i wneud cais, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod. Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich prosiect yn gymwys dan y cynllun, cysylltwch â ni a byddwn yn falch o’ch helpu. Os na ellir ariannu eich prosiect trwy’r Grant Datblygu Eiddo Masnachol, mae’n bosibl y byddwn ni’n gallu rhoi gwybod i chi am gyfleoedd cyllid eraill fyddech chi’n gymwys i’w cael o bosibl.
I drafod eich cynnig, cysylltwch â:
Katie Minton-Rowlands
Swyddog Prosiect Datblygu ac Adfywio
Rhif Ffôn: 01492 577329
E-bost: regen@conwy.gov.uk
transforming-town-logo-welshgov