Rydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig benthyciadau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo mewn nifer o ardaloedd canol trefi sef:
- Abergele a Phensarn
- Towyn a Bae Cinmel
- Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo yn Rhos)
- Mochdre a Hen Golwyn
- Llandudno (gan gynnwys Craig-y-don)
- Bae Penrhyn a Llandrillo yn Rhos
- Conwy (gan gynnwys Deganwy a Chyffordd Llandudno)
- Llanrwst
- Penmaenmawr
- Llanfairfechan
Prif nodau’r cynllun yw lleihau nifer y safleoedd ac eiddo masnachol sy’n cael eu tanddefnyddio a/neu sy’n wag ac wedi bod yn wag am gyfnod hir mewn canol trefi, a chefnogi adferiad economaidd canol trefi. Defnyddir y benthyciad i wella a rhoi ail-bwrpas i eiddo ar gyfer perchnogaeth barhaus i werthu, rhentu neu ailddefnyddio safleoedd gwag.
- Benthyciadau hyd at £100,000 (caiff ceisiadau am symiau mwy eu hystyried fesul achos)
- Di-log (codir ffi weinyddol)
- Ad-daladwy dros 3 – 5 mlynedd
- Ni ellir ei ddefnyddio i ad-dalu benthyciadau presennol
- Bydd gwiriadau fforddiadwyedd yn cael eu cynnal ar ymgeiswyr
Disgwylir i bob prosiect a gefnogir gan y cynllun gyfrannu at rai o’r allbynnau canlynol:
- Ail ddefnyddio safleoedd gwag yn gynaliadwy
- Cefnogi creu swyddi / twf busnes
- Cefnogi hyfforddiant/ recriwtio a dargedir yn ystod y gwaith adfer / trosi eiddo
- Cynyddu cyflenwad a safon y lle sydd ar gael yng nghanol trefi
- Cefnogi bwrlwm a bywiogrwydd canol trefi
- Cyfrannu at adferiad economaidd canol trefi
I drafod eich cynnig, cysylltwch â:
Katie Minton-Rowlands
Swyddog Prosiect Datblygu ac Adfywio
Rhif Ffôn: 01492 577329
E-bost: regen@conwy.gov.uk
transforming-town-logo-welshgov