Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
start content

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn berthnasol i Wasanaethau Plant a Theuluoedd a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dylid ei ddarllen yn ogystal â Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid cyffredinol y Cyngor.

Bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn cynnwys:

  • Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol 
  • Gwybodaeth bersonol a gaiff ei chasglu
  • Gyda phwy allem ni rannu eich gwybodaeth
  • Pa mor hir y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth
  • Eich hawliau o ran eich gwybodaeth
  • Rhannu eich gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru

Pwrpas prosesu

Mae’r gwasanaethau’n prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn amddiffyn a diogelu plant diamddiffyn. Mae hyn yn cynnwys:

  • Ymchwilio i bryderon ac adroddiadau
  • Rheoli ymateb i’r pryderon
  • Darparu gwasanaethau cyhoeddus
  • Cadarnhau eich hunaniaeth
  • Cysylltu â chi am y gwasanaethau ydym ni’n eu darparu
  • Cefnogi a rheoli ein gweithwyr
  • Cynnal ffeiliau gofal parhaus


Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer cyflawni contract neu dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.   Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail gyfreithiol. 

Gwybodaeth bersonol a gaiff ei chasglu a sail gyfreithiol

Mae’r Gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol sy’n cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Manylion personol – e.e. enw / oedran / cyfeiriad / ysgol / a manylion teulu
  • Gwybodaeth gyswllt – e.e. rhifau ffôn / cyfeiriad e-bost
  • Cyfeirnodau Personol – e.e. cyfeirnod cwsmer unigryw Gofal Cymdeithasol / rhif GIG / Rhif Dysgwr Unigol / Yswiriant Gwladol
  • Manylion cyflogaeth
  • Manylion ariannol – at ddibenion cyllid
  • Trwyddedau / caniatâd
  • Amgylchiadau cymdeithasol a ffordd o fyw
  • Barn a phenderfyniadau
  • Cofnodion o gwynion
  • Adroddiadau diogelu
  • Cofnodion myfyrwyr a disgyblion
  • Delweddau gweledol, ymddangosiad personol ac ymddygiad


Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu gwybodaeth categori arbennig (sensitif) hefyd, a allai gynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • Gwybodaeth fiometrig
  • Manylion eich iechyd corfforol neu feddyliol
  • Tarddiad ethnig neu hiliol
  • Crefydd neu gredoau eraill
  • Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau

Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth bersonol hon yw:

  • Cydymffurfiaeth â rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Tasgau a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol
  • Cydsyniad

Gyda phwy allem ni rannu eich gwybodaeth:

O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd angen i ni rannu’r wybodaeth bersonol ydych chi wedi’i rhoi i ni neu ydym ni wedi’i chasglu amdanoch chi gyda sefydliadau partner. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i:

  • Gwasanaethau eraill yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Awdurdodau lleol eraill (mewn achosion mabwysiadu a maethu yn benodol)
  • Adrannau’r llywodraeth, h.y. Adran Addysg
  • Iechyd / Meddygon Teulu / GIG
  • Yr Heddlu
  • Asiantaethau budd-daliadau
  • Asiantaethau tai
  • Canolfannau plant
  • Asiantaethau cymorth Maethu a Mabwysiadu
  • Gwasanaeth Prawf / Cyfiawnder Ieuenctid
  • Prospects (Gwasanaeth NEET)
  • COMPASS / Gwasanaeth Iechyd a Lles Ysgolion
  • Grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol sy’n gweithio gyda phobl ifanc gan gynnwys Barnardo’s.

Mae gennym drefniadau rhannu data penodol yn eu lle gydag asiantaethau lleol, ac weithiau mae'r gyfraith yn mynnu ein bod yn gorfod trosglwyddo eich manylion ymlaen at drydydd parti, er enghraifft, i atal troseddau.

Dim ond pan fo wir angen gwneud hynny y caiff gwybodaeth ei rhannu, a hynny er mwyn ein helpu i ddarparu gwasanaethau effeithiol, ac mae’n bosibl y bydd gennych hawl i wrthod. Ni fyddwn yn ei throsglwyddo i unrhyw bartïon eraill oni bai bod gofyn i ni wneud hynny yn unol â’r gyfraith, neu dan yr holl amgylchiadau rhesymol bod y datgeliad yn deg a gwarantedig at ddibenion prosesu, neu yn destun eithriad diogelu data cyfreithiol.

Pa mor hir y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth

Mae’r cyfnodau cadw yn amrywio o 1, 2, 6, 10, 25, 75 neu 100 mlynedd, yn dibynnu ar y gwasanaeth.

Sylwch: bydd pob cyfnod cadw a nodir yn destun unrhyw ddaliad cyfreithiol a roddir dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 a allai fod yn gysylltiedig â’r wybodaeth ac sy’n bwysicach na’r cyfnod cadw safonol.

Eich hawliau o ran eich gwybodaeth

Mae gennych hawl i gael copi, neu ddisgrifiad, o’r data personol sydd gennym amdanoch chi, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithlon. Gweler Sut i gael eich Cofnodion Gwasanaethau Cymdeithasol i weld sut i wneud cais am hyn gan ddefnyddio’r ffurflen.

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gywiro, cyfyngu, gwrthwynebu a dileu eich gwybodaeth bersonol, yn dibynnu ar y gwasanaeth a’r sail gyfreithiol. I ddechrau, cysylltwch â mynediadpwnc@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 577098.

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Rhannu eich gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru

Bydd peth o’r wybodaeth a gedwir amdanoch yn cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn eu cynorthwyo i gynnal ymchwil i wella’r gofal a chefnogaeth a ddarperir i chi a phobl eraill yng Nghymru. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu’n gyfreithlon a bydd ond yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil i gefnogi busnes swyddogol. 

Pa wybodaeth gaiff ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru?

  • Rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi, fel:

        - dyddiad geni
        - rhywedd
        - grŵp ethnig
        - statws anabledd
        - gwybodaeth arall am iechyd  

  • Manylion sylfaenol am y gofal neu gefnogaeth a ddarperir i chi
  • Gwybodaeth gan eich ysgol am eich addysg 

Pa wybodaeth na chaiff ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru?

  • Ni chaiff eich enw ei rannu
  • Ni chaiff enwau eich teulu a/neu ofalwyr eu rhannu
  • Ni chaiff eich cyfeiriad ei rannu

Sut fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth?

  • I helpu i gynllunio gwasanaethau i bobl yng Nghymru
  • I fesur pa mor dda mae gwasanaethau'n cael eu darparu fel bod modd eu gwella
  • I helpu i gynnal ymchwil i les pobl - gall hyn gynnwys ei chyfuno â gwybodaeth arall, e.e. data iechyd neu addysg

Sut na fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth?

  • Ni chymerir unrhyw gamau sy’n ymwneud â chi’n bersonol
  • Ni fydd posibl eich adnabod mewn unrhyw adroddiadau
  • Ni chaiff gwybodaeth fyth ei rhannu na’i chyfuno mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod chi

Beth yw fy hawliau o ran defnyddio fy nata?

  • yr hawl i gael gwybod (yr hysbysiad hwn)
  • yr hawl i gael mynediad at y data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch
  • yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
  • yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth (mewn amgylchiadau penodol)
  • yr hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol diogelu data

Ydi eich gwybodaeth yn ddiogel?

Bydd y wybodaeth a gaiff ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei hanfon a’i storio’n ddiogel. Ni chaiff fyth ei rhannu gyda phobl eraill heb fod hynny dan reolaethau gofalus, er mwyn sicrhau mai dim ond yn y ffyrdd a restrir yma y caiff ei defnyddio.

Ydi casglu’r data yn gyfreithlon?

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu’r data hwn gan ddefnyddio pwerau a nodir mewn deddfwriaeth ac i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a gofynion statudol. 

Am faint fyddwch chi’n cadw’r data?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r data tan ben-blwydd y plentyn / oedolyn yn 25 oed.  Ar ôl hynny, bydd y data’n cael ei droi’n ddienw a chaiff ei ddefnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig. 

Rhagor o wybodaeth

I gael disgrifiad llawn o’r wybodaeth a rennir gyda Llywodraeth Cymru, eich hawliau a’r wybodaeth gyfreithiol berthnasol, a chwynion, defnyddiwch y ddolen isod, neu ysgrifennwch atom yn y cyfeiriad isod:

https://www.llyw.cymru/casglu-data-gwasanaethau-cymdeithasol-awdurdod-lleol 

Tîm Casglu Data
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Llawr 4 De, CP2, Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ


E-bost:
stats.pss@gov.wales

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content