Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Gwella Cysylltedd Digidol

Gwella Cysylltedd Digidol


Summary (optional)
start content

Mae Conwy yn ymrwymedig i wella cysylltedd digidol ar draws y sir fel rhan o’i Strategaeth Ddigidol.  Er nad ydym yn darparu nac yn gweithredu rhwydweithiau band eang neu symudol, rydym yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol i helpu i wella isadeiledd digidol a mynediad at wasanaethau.

Mae cyfrifoldeb dros fuddsoddiad mewn rhwydweithiau band eang a symudol ar ddarparwyr telathrebu masnachol a rhaglenni a gaiff eu hariannu gan y llywodraethu.  Fodd bynnag, rydym yn cefnogi mentrau sydd â’r nod o wella cysylltedd i breswylwyr, busnesau a chymunedau ar draws Conwy.

Mae ein gweithgareddau’n cynnwys:

  • Cefnogi estyn cwmpas rhwydweithiau band eang a symudol ffibr cyflym.
  • Ceisio cyfleoedd ariannu i wella mynediad Wi-Fi cyhoeddus a hybu cynhwysiant digidol.
  • Cefnogi datblygiad isadeiledd digidol a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys y Rhyngrwyd Pethau a rhwydweithiau LoRaWAN.
  • Gweithio gyda darparwyr telathrebu, rhaglenni’r llywodraeth a phartneriaid rhanbarthol, gan gynnwys Uchelgais Gogledd Cymru, i nodi meysydd lle gallai fod angen buddsoddi yn y dyfodol.

Gwirio Argaeledd Band Eang

I weld pa wasanaethau band eang sydd ar gael yn eich cyfeiriad, nodwch eich cod post yng Ngwiriwr Ffibr Openreach.

end content