Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Craffu Dweud eich dweud

Dweud eich dweud


Summary (optional)
Mae'r Cyngor eisiau ei gwneud yn haws i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan mewn craffu. Gall y cyfranogiad hwnnw helpu'r Cyngor i sianelu gwybodaeth gymunedol yn ei brosesau gwella.
start content

Mae yna nifer o ffyrdd y gall y cyhoedd gymryd rhan yn y broses Trosolwg a Chraffu. Trwy fynychu'r cyfarfodydd, siarad mewn cyfarfodydd, gan roi sylwadau ar agendâu a llawer mwy.

Mae Trosolwg a Chraffu yn golygu fod Cynghorwyr yn gweithio gyda phobl leol, sefydliadau cymunedol, asiantaethau sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor a'r cyhoedd i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac ymatebol. Rydym am sicrhau fod pobl leol yn cael dweud eu dweud ynglŷn â sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu.

Trwy roi eich barn i ni, gallwn helpu i wella’r gwasanaethau a dderbyniwch. Wrth gwrs ni all Trosolwg a Chraffu addo dod i’r un casgliadau â chi, ond bydd eich sylwadau’n cael eu cydnabod a’u hystyried.

Manylion cyswllt:

  • Post: Swyddog Arweiniol Craffu, Y Gyfraith a Llywodraethu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG
  • Ffôn: 01492 576064
  • E-bost: craffu@conwy.gov.uk
end content