Dylai unrhyw ddeiseb bapur gynnwys teitl byr a datganiad byr sy'n cwmpasu pwnc y ddeiseb.
Dylai’r ddeiseb nodi’n glir pa gamau mae’r deisebwr yn dymuno i’r Cyngor eu cymryd a dangos y canlynol:
- Enw’r deisebwr
- Cyfeiriad cyswllt y prif ddeisebwr y dylid anfon pob cyfathrebiad sy’n ymwneud â’r ddeiseb
- Enw a chyfeiriad unrhyw unigolyn sy’n cefnogi’r ddeiseb
- Dylai deisebau papur hefyd gynnwys llofnod
Dylai deisebau gael eu cyflwyno gan Gynghorydd a gellir eu cyflwyno mewn cyfarfod o’r Cyngor, y Cabinet neu’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (yn dibynnu ar y mater a’r cyngor gan Swyddog Monitro’r Cyngor).
Manylion cyswllt:
- Post: Swyddog Arweiniol Craffu, Y Gyfraith a Llywodraethu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG
- Ffôn: 01492 576064
- E-bost: craffu@conwy.gov.uk