Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Conwy'n Sefyll yn Erbyn Hiliaeth


Summary (optional)
start content

Nid oes unrhyw le i hiliaeth yn ein cymuned ni. Mae’n achosi niwed mawr i unigolion, teuluoedd a chymdeithas yn ehangach. Rydyn ni’n ymroi i feithrin amgylchedd lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.

Gweld – Diogelu – Atal

Gweld: Rhowch wybod am unrhyw achosion sy’n digwydd yn neu o amgylch ein safleoedd i aelod o staff.

Diogelu: Mae diogelwch yn flaenoriaeth – sicrhewch eich bod yn diogelu eich hunain a phobl eraill.

Atal: Rydyn ni’n ymroi i greu mannau cynhwysol a diogel lle nad oes croeso i hiliaeth. Helpwch ni i fod yn rhan o’r ateb.

Nid ydym yn derbyn:

  • Jôcs sarhaus, difrïo enw da na sylwadau sy’n gwahaniaethu yn erbyn rhywun
  • Ymddygiad bygythiol, ymosodol na threisgar
  • Iaith na symbolau casineb, na gweithredoedd o anoddefgarwch


Gallai’r canlyniadau am ymddygiad annerbyniol gynnwys:

  • Gofyn ichi adael safle’r Cyngor
  • Galw’r heddlu, os oes angen


Gyda’n gilydd, gallwn greu cymuned sydd wedi’i gwreiddio mewn urddas, cydraddoldeb a pharch i’r naill a’r llall.

Os ydych wedi dioddef neu weld unrhyw hiliaeth, dwedwch wrth rywun. Mae’n bwysig rhoi gwybod amdano a gofyn am gymorth.

A yw’n argyfwng? Ffoniwch 999 ar unwaith mewn argyfyngau fel hyn:

  • Lle mae perygl uniongyrchol i fywyd
  • Os oes rhywun yn dreisgar neu’n bygwth trais
  • Pan mae trosedd yn digwydd ar y pryd a’r troseddwr yn dal yno


(gwybodaeth o Sut i riportio troseddau casineb | Heddlu Gogledd Cymru)

Dyma ffyrdd eraill o roi gwybod am achosion a chael cymorth:


Os ydych chi’n gweithio i Gonwy, gofynnwch am gymorth a defnyddiwch y prosesau mewnol i roi gwybod. Darllenwch y Polisi yn Erbyn Aflonyddu yn y Gweithle am fwy o wybodaeth.

end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?